Neidio i'r prif gynnwy

Brechiad COVID-19: cyhoeddiad y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ar frechu plant a phobl ifanc

19 Gorffennaf 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad (isod) mewn ymateb i argymhellion gan y Cydbwyllgor ar Frechu a Imiwneiddio ar frechu ar gyfer rhai unigolion 12-17 oed.

Rydym yn aros am fanylion gweithredol pellach yn fuan iawn fel y gallwn roi'r argymhellion hyn ar waith ym Mhowys.

"Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr  aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.

Heddiw, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ar gyfer rhaglen frechu COVID-19 ac ar hunanynysu.

Heddiw mae'r JCVI wedi cyhoeddi ei gyngor pellach ar frechu plant a phobl ifanc. Yn unol â gwledydd eraill y DU, mae Llywodraeth Cymru'n croesawu'r cyngor hwn gan JCVI.

Yn dilyn misoedd o drafod ac ystyried tystiolaeth, mae JCVI yn argymell y dylid cynnig brechiad COVID-19 i blant a phobl ifanc 12-15 oed sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol penodol sy'n peri risg o COVID-19 difrifol iddynt. Yn y bôn, mae'r grŵp cleifion eithriadol o agored i niwed yn glinigol bellach yn cynnwys pobl ifanc 12 ac yn hŷn. Bydd y GIG yn gweithio'n gyflym i nodi'r bobl ifanc hyn ac i gynnig y brechlyn iddynt.

Mae pobl ifanc 16 i 17 oed sydd â risg uwch o gael COVID-19 difrifol, fel y nodir ar hyn o bryd yn y Llyfr Gwyrdd, eisoes fod wedi cael cynnig brechiad COVID-19 a dylent barhau i gael cynnig y brechiad.

Dylai plant a phobl ifanc 12 oed ac yn hŷn sy'n byw yn yr un aelwyd â phobl sy'n imiwnoataliedig gael cynnig brechiad COVID-19 ar y ddealltwriaeth bod prif fuddion brechu'n gysylltiedig â'r potensial i ddiogelu yn anuniongyrchol y cyswllt teuluol sy'n imiwnoataliedig. Mae ffurflen hunanatgyfeirio ar gael.

Mae JCVI hefyd yn cynghori ei bod yn rhesymol, yn weithredol, ganiatáu amser rhagarweiniol i gynnig brechiad i'r plant hynny sydd o fewn tri mis o'u pen-blwydd yn 18 oed er mwyn sicrhau bod pobl sydd newydd droi'n 18 oed yn cael y brechlyn. Byddwn yn mynd ati'n gyflym i frechu'r rhai sy'n troi'n 18 oed, gan gynnwys y rhai sy'n bwriadu mynd i'r brifysgol.

Gan fod digwyddedd a difrifoldeb COVID-19 yn isel ymhlith plant, ac oherwydd y materion diogelwch a gofnodwyd, nid yw JCVI ar hyn o bryd yn cynghori brechu pob plentyn a pherson ifanc arall sy'n iau na 18 oed fel mater o drefn. Rwyf yn ymwybodol y bu galw am frechu plant i'w hatal rhag cael syndrom COVID-19 ôl-acíwt (COVID hir).  Mae cyfraddau Covid ymhlith  plant yn gymharol isel ac mae gwybodaeth gyfyngedig o hyd am effeithiau uniongyrchol cyffredinol y feirws arnynt. Fodd bynnag, mae astudiaethau'n dod i'r amlwg sy'n dangos bod y risg hon yn isel iawn mewn plant, yn enwedig o’i gymharu ag oedolion, ac yn debyg i gymhlethdodau iechyd eilaidd heintiau feirysol anadlol eraill mewn plant. Mae fy swyddogion yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar y mater hwn ac wedi sefydlu grŵp i ystyried effeithiau Covid Hir ar oedolion a phlant a chydlynu'r ymateb eang y mae ei angen. Mae'r grŵp yn cynnwys arweinwyr polisi plant yn ogystal â chydweithwyr clinigol ac ymchwil. Mae'r grŵp newydd ymrwymo i sefydlu is-grŵp, o dan gadeiryddiaeth Dr Mark Walker, i ystyried sefydlu llwybr gofal pediatrig i'w ddefnyddio gyda phlant â Covid Hir yng Nghymru.

Gan droi at hunanynysu, fel y nododd y Prif Weinidog ar 14 Gorffennaf, cytunwyd, o heddiw ymlaen, nad oes rhaid i bob oedolyn sydd wedi’i frechu'n llawn gyda brechlynnau COVID-19 y GIG a phobl ifanc o dan 18 oed hunanynysu ar ôl iddynt ddychwelyd o wledydd ar y rhestr oren. Yr eithriad i hyn yw Ffrainc. Wrth gyrraedd yn ôl o Ffrainc bydd rhaid i bobl hunanynysu am 10 diwrnod, hyd yn oed os ydynt wedi’u brechu'n llawn. Y rheswm dros hyn yw pryderon am amrywiolyn Beta y deellir ei fod yn osgoi ein brechlynnau'n haws.  Mae cael eich brechu’n llawn yn golygu bod pythefnos wedi mynd heibio ers ichi gael eich dos terfynol o frechlyn cymeradwy o dan raglen frechu’r DU, eich bod yn cymryd rhan mewn treialon clinigol brechlyn COVID-19 a gymeradwywyd yn ffurfiol, neu eich bod o dan 18 oed ac yn byw yn y DU.

Yn ogystal, yn ystod mis Awst, byddwn yn dileu'r gofyniad i bobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn i hunanynysu os ydynt yn gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif. Bydd hunanynysu yn parhau i chwarae rhan bwysig iawn i helpu i leihau lledaeniad y feirws. Bydd mesurau diogelwch ar waith i bobl sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Fel rhan o’r adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau byddwn yn ystyried esemptiadau posibl eraill, megis ar gyfer y rhai o dan 18 oed.

Rydym yn dal i gael llawer o ymholiadau am ardystio brechlynnau a’r ffaith nad yw rhai brechlynnau'n cael eu cydnabod gan rai gwledydd i gael mynediad iddynt. Fel yr amlinellwyd yn fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, hoffwn ailadrodd bod yr holl frechlynnau AstraZeneca a roddir yn y DU yn ymddangos ar Bàs COVID y GIG fel Vaxzevria. Mae'r EMA wedi awdurdodi'r brechlyn hwn ac ni ddylai effeithio ar deithio. Lle ceir camddealltwriaeth gyda gwledydd unigol, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i drafod dilysrwydd y brechlynnau yn uniongyrchol gyda'r Llywodraeth berthnasol.

Yn olaf, rwyf yn falch o ddweud bod 75 y cant o oedolion yng Nghymru bellach wedi cael eu hail ddos o frechlyn COVID-19. A ninnau wedi cynnig brechiad cyntaf i bob oedolyn yn ôl yng nghanol Mehefin, mae hyn yn gamp aruthrol arall i'r rhaglen. Ond mae angen i ragor o bobl gael eu brechu.  Mae un o bob pedwar o bobl o dan 40 oed heb gael eu brechu eto a dyna le'r ydym yn gweld lefelau uchel o haint. Mae llwyddiant y rhaglen frechu'n ffactor allweddol yn ein gallu i lacio'r cyfyngiadau a'r brechlyn yw'r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19. Hoffwn annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y ddau ddos. Byddwch cystal â pharhau i ofyn i'ch ffrindiau a'ch teulu a ydynt wedi manteisio ar y brechiad ac i'w hannog i gael eu brechu os nad ydynt wedi'u brechu eisoes. Mae canolfannau brechu ledled sawl rhan o Gymru ar agor ar gyfer apwyntiadau cerdded i mewn, neu gallwch weld y pwynt cyswllt."

Rhannu:
Cyswllt: