Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Freedom Leisure wedi cytuno i barhau â'u partneriaeth i gefnogi rhaglen frechu COVID-19 y sir tan ddiwedd 2021.

Mae'r rhaglen frechu COVID-19 ym Mhowys wedi bod yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn y DU gyfan. Eisoes mae 91% o oedolion wedi derbyn eu dos cyntaf ac mae 88.8% wedi derbyn eu hail ddos. Dyma'r cyfraddau uchaf o unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru.

Dim ond drwy ysbryd anhygoel pobl Powys a phartneriaethau rhwng sefydliadau, busnesau a chymunedau lleol y gwnaed hyn yn bosibl. Enghraifft o hyn yw'r bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chanolfan Hamdden Freedom Leisure Maldwyn yn y Drenewydd. Ar ddechrau 2021 gweithiodd y ganolfan hamdden a'r bwrdd iechyd gyda'i gilydd i greu canolfan frechu fwyaf y sir. Ac, ers i'r rhaglen frechu ddechrau, mae degau o filoedd o frechiadau COVID-19 wedi cael eu cyflwyno yn y ganolfan ar Plantation Lane.  Dechreuodd hyn gyda dosau cyntaf ym mis Ionawr, ac yna ail ddos o fis Chwefror. Dros yr haf, agorodd y rhaglen frechu hyd at rai dan ddeunaw oed, ac erbyn hyn mae'r ffocws ar gyflwyno'r rhaglen atgyfnerthu yn ogystal â chynnig brechu i bobl ifanc 12 i 15 oed.

Dywedodd Adrian Osborne, cyfarwyddwr rhaglen brechu COVID-19 ym Mhowys: “Mae cael lleoliad fel Canolfan Hamdden Maldwyn wrth galon y rhaglen frechu yn gwbl hanfodol. Mae'r rhaglen frechu wedi bod yn dibynnu'n fawr ar y brechlyn PFIZER/Biontech. Ar ddechrau'r rhaglen frechu, cyrhaeddodd y brechlyn hwn mewn hambyrddau o dros 1100 dosau yr oedd angen eu defnyddio o fewn pedwar diwrnod. Roedd yn hanfodol felly fod gan y sir leoliadau fel y ganolfan hamdden y byddai’n addas ar gyfer nifer fawr iawn o bobl i gael eu brechu mewn cyfnod byr o amser. Mae gan y brechlyn PFIZER/BionTech ofynion penodol iawn ar gyfer storio a gweinyddu. Er enghraifft, mae angen i bawb sy'n derbyn y brechlyn eistedd ac aros 15 munud ar ôl, ac mae angen i hyn ddigwydd mewn amgylchedd sy'n bodloni'r holl ofynion ar gyfer pellhau cymdeithasol ac atal a rheoli heintiau. Dim ond y lleoliadau mwyaf all gynnal y broses frechu gyfan o arwyddo mewn, asesu clinigol, gweinyddu brechu, 15 munud i eistedd ac aros, ac arwyddo allan. Canolfan Hamdden Maldwyn oedd yr unig leoliad yng ngogledd y sir a allai gynnig darpariaeth brechiad COVID-19 ar raddfa mor fawr ac yn gyflym.”

Parhaodd Mr Osborne, “Hoffwn rannu fy niolch personol gyda Freedom Leisure, y tîm yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn a'i holl gwsmeriaid ac aelodau am y gefnogaeth anhygoel y maent wedi'i rhoi i'r ymdrechion brechu yn Sir Drefaldwyn. Hebddynt ni fyddem wedi gweld y gwaith llwyddiannus y gall y sir hon fod yn wirioneddol falch ohoni. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cytuno i barhau â'r bartneriaeth hon tan ddiwedd y flwyddyn i gyflwyno'r rhaglen atgyfnerthu hanfodol a fydd yn helpu i gadw pobl yn ddiogel yn y gaeaf i ddod.”

Dywedodd Gwyn Owen o Freedom Leisure: “Mae wedi bod yn fraint chwarae rhan mor allweddol yn y gwaith o gyflwyno rhaglen frechu'r sir. Bydd parhau â'r rhaglen frechu yn helpu sicrhau y gall pob un ohonom ddychwelyd i'r holl weithgareddau yr ydym yn eu gwerthfawrogi. Dros y misoedd nesaf mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi'r rhaglen frechu drwy ein canolfan hamdden yn y Drenewydd, a bydd hyn yn ei dro yn helpu i barhau â'n taith yn ôl i normalrwydd yn 2022.”

Mae gwahoddiadau ar y gweill ar gyfer dosau atgyfnerthu. Fel arfer, bydd pobl sy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu yn derbyn eu gwahoddiad rhwng chwech ac wyth mis ar ôl eu hail ddos am apwyntiad mewn canolfan frechu torfol. Mae rhagor o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael o https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/brechu-covid-19/

 

Rhannu:
Cyswllt: