Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn annog brechu, gan fod disgwyl i'r ffliw fod yn fater iechyd cyhoeddus mawr yng Nghymru y gaeaf hwn

Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn disgwyl tymor ffliw sylweddol y gaeaf hwn am y tro cyntaf ers y pandemig. Mae pryderon y gall ddechrau'n gynharach eleni ac effeithio ar fwy o bobl. O ganlyniad, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bellach yn annog unrhyw un sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig, er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill rhag salwch difrifol y gaeaf hwn.

Yn ogystal, mae rhaglen pigiad atgyfnerthu'r hydref Covid-19 bellach yn fyw ac mae llawer o bobl gan gynnwys pawb dros 50 oed, a'r rhai sy'n wynebu risg o salwch difrifol ymhlith y rhai sy'n cael cynnig pigiad atgyfnerthu Covid-19 i leihau eu siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

Mae achosion o ffliw eisoes yn cael eu canfod yng Nghymru. Mae gwyddonwyr iechyd cyhoeddus yn dweud y gallai'r tymor ffliw fod mor ddifrifol â'r achosion o ffliw yn 2017/18, pan gafodd 16.5 mil o bobl yng Nghymru ddiagnosis o ffliw gan eu meddyg teulu, ac roedd yn rhaid i 2,500 o bobl fynd i'r ysbyty. Roedd hefyd lefel uchel o farwolaethau ychwanegol tymhorol y flwyddyn honno – y gwaethaf ers tua 20 mlynedd.

Ers mis Mawrth 2020, mae cyfnodau clo Covid-19 a chyfyngiadau teithio rhyngwladol wedi amharu ar faint o feirysau anadlol sydd ar led, ond wrth i'n bywydau fynd yn ôl i'r arfer, mae feirysau'n dychwelyd mewn niferoedd uwch. Eleni, profodd Awstralia dymor ffliw a oedd yn gynharach nag arfer a gwelodd y lefelau achosion uchaf mewn pum mlynedd. Mae'n bosibl y bydd y DU – a Chymru – yn profi gweithgarwch ffliw tebyg.

Gyda Covid-19 hefyd yn mynd ar led, a phwysau ychwanegol y gaeaf ar y GIG, mae'n bwysicach nag erioed bod y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw neu Covid-19 am ddim yn cael eu brechu er mwyn helpu i'w hatal rhag mynd yn ddifrifol sâl a diogelu'r GIG y gaeaf hwn.

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Manteisio ar y cynnig i gael brechlyn COVID-19 a brechlyn y ffliw yw un o'r camau mwyaf y gallwn ei gymryd i ddiogelu ein hiechyd y gaeaf hwn. Mae brechu yn achub bywydau ac yn helpu atal salwch difrifol. Cadwch lygad allan am eich gwahoddiad, a gwnewch eich gorau i fynychu’r apwyntiad rydym yn ei gynnig."

Meddai Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym yn annog pawb i gael eu dau bigiad y gaeaf hwn, pan fydd ffliw a COVID ar eu hanterth, i amddiffyn eu hunain, y rhai o'u cwmpas a'r GIG yn ystod cyfnod prysur i ofal iechyd yng Nghymru.”

I hyrwyddo'r brechiadau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch sy'n annog y rhai sy'n gymwys i ‘ailwefru’ eich amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol y gaeaf hwn drwy gael y brechlynnau ffliw a Covid-19. Mae'r ymgyrch yn lansio ar 27 Medi gyda chynnwys digidol a chymdeithasol yn ogystal ag estyn allan i randdeiliaid a hysbysebion radio.

Mae brechu yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n hŷn, yn feichiog, neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i niwed o ran cymhlethdodau o ganlyniad i'r heintiau. Mae hefyd yn bwysig iawn bod gweithwyr gofal iechyd rheng flaen a'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu'n darparu gofal yng nghartrefi pobl eu hunain yn cael eu brechlynnau er mwyn helpu i leihau lledaeniad.

I helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledu, cofiwch ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa.’

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael y brechlynnau ym Mhowys, ewch i https://biap.gig.cymru/brechlyn-hydref a https://biap.gig.cymru/aros-yn-iach/brechlyn-ffliw/

 

 

Cyhoeddwyd: 27/09/2022

Rhannu:
Cyswllt: