Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Diweddaru'r strategaeth - Byw'n Iach Aros yn Iach

Cartŵn gyda golygfa o barc prysur gyda llawer o bobl yn cynnwys siop goffi symudol, dyn yn cerdded gyda ci, menyw hyn yn eistedd ar fainc a dyn mewn cadair olwyn.

Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru (e.e. Ysbyty Maelor Wrecsam)?

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw darparwr gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru ac maent yn ceisio barn wrth iddynt adnewyddu eu strategaeth 'Byw’n Iach Aros yn Iach' erbyn 27 Hydref 2021.

 

"Bydd y Bwrdd [Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr] yn cychwyn cyfnod o ymgysylltiad ffurfiol i gefnogi’r gwaith parhaus i ddiweddau ein strategaeth hir dymor Byw’n Iach, Aros yn Iach  o ddydd Mercher 15 Medi hyd at ddydd Mercher 27 Hydref 2021, yn dilyn blwyddyn hynod o heriol i bawb oherwydd COVID-19. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y pethau iawn wrth i ni ddod allan o’r pandemig.

Ers i ni gynhyrchu Byw’n Iach, Aros yn Iach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cymru Iachach.   Mae hwn yn gosod allan yr uchelgais ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i weithio’n agosach ac mae mwy o bwyslais ar gadw pobl yn iach.    

Rydym felly am wirio fod ein strategaeth hir dymor ar gyfer iechyd a lles ar y trywydd cywir, gan y bydd yn cyfrannu at ddatblygiad ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) a darparu fframwaith ar gyfer datblygu ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol. 

Ewch i wefan BIPBC i gael mwy o wybodaeth, deunyddiau ymgysylltu a gwybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan / dweud eich dweud trwy ein harolwg cyhoeddus."

Jo Whitehead PSM, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Rhannu:
Cyswllt: