Mae gŵr o’r Drenewydd wedi cael ei ysbrydoli i golli pwysau a dechrau busnes bwyd Caribïaidd newydd diolch i raglen rheoli pwysau GIG Cymru o’r enw Bwyd Doeth am Oes.
Symudodd Johnal Simpson i’r Drenewydd o’r de ar ddechrau’r cyfnod clo:
“Doedd gen i ddim perthynas iach iawn gyda bwyd dros y pedair blynedd ddiwethaf mewn gwirionedd. Gan fy mod i’n byw ar fy mhen fy hunan, ro’n i’n ei chael hi’n anodd ysgogi fy hunan i gael tri phryd call bob dydd, ac fel arfer ro’n i’n bwyta drwy gydol yr hwyr ar ôl peidio â bwyta brecwast na chinio.” Meddai Johnal. “Roedd e’n gylch dieflig. Roedd tecawês a bwyta gormodaeth o fwyd sothach yn beth cyffredin.”
“Roedd y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys bwyta fy ffordd tuag at gael trawiad ar y galon, a thrwy hynny doedd dim modd i neb ddweud mai hunanladdiad oedd achos fy marwolaeth – dyna oedd fy meddylfryd. Yn sgil diffyg ymarfer corff a byw bywyd meudwy, cefais ddiagnosis o ddiabetes math 2 yn fuan wedyn. Roedd yn rhaid i fi newid. Diolch byth, gyda chymorth fy meddyg teulu lleol a’r gwasanaethau iechyd meddwl yma yn y Drenewydd, fe wnes i deimlo bod rhywun yn gwrando ac yn barod i fy helpu. Ar ôl newid meddyginiaeth, dw i wedi cael blas newydd ar fywyd.”
Atgyfeiriodd ei nyrs diabetes ef at y rhaglen Bwyd Doeth, sef cwrs naw wythnos sy’n cael ei gynnal yn rhithiol gan weithwyr cymorth deietetig Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
“Mae’r cwrs wedi agor fy llygaid i werthoedd maethol a phwysigrwydd dilyn deiet cytbwys. Dw i’n colli pwysau yn gyson. Dw i wedi newid o fwyta bara a phasta gwyn i’r rhai blawd gwenith cyflawn. Dw i wedi stopio yfed te a choffi, a dw i bellach yn bwyta llawer mwy o ffrwythau a llysiau. A dw i’n teimlo’n llawer mwy positif am fy hunan,” meddai Johnal. “Tro diwethaf ges i brawf, roedd fy lefelau siwgr wedi gostwng, sy’n gam i’r cyfeiriad cywir.”
“Ro’n i’n ddigon ffodus i fod yn rhan o’r cwrs Bwyd Doeth am Oes cyntaf i gael ei gynnal ar-lein. Sesiwn grŵp yw’r cwrs ar-lein ac roedden ni i gyd yn cyd-dynnu’n dda ac yn rhannu cyngor a syniadau, ac roedden ni’n cefnogi ein gilydd ac yn cydnabod ein hatebolrwydd. Mae wedi bod yn hollol wych. Roedd y gweithwyr cymorth deietetig yn gymorth enfawr. Bydden i’n ei argymell i unrhyw un sydd angen cymorth i golli pwysau ac i ddysgu gwybodaeth ddeietegol,” esboniodd.
Mae’r rhaglen Bwyd Doeth am Oes wedi cael cymaint o effaith ar Johnal nes ei fod yn bwriadu ailafael yn ei ddyhead i ddechrau ei fusnes bwyd ei hunan:
“Mae fy nhad yn dod o Jamaica a chefais i fy magu ar fwyd Caribïaidd. Ro’n i am gyflwyno’r blasau i’r Drenewydd. Fe wnaeth Bwyd Doeth am Oes fy helpu i fagu mwy o hyder.”
Mae disgwyl i Gerbyd Bwyd Caribïaidd yr Hummingbird ddechrau gweini bwydydd o’r Caribî yn y Drenewydd yn ddiweddarach yn y mis.
Esboniodd Karen Wilson, Deietegydd Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Drwy ganolbwyntio ar yr elfen ymddygiadol y tu ôl i arferion pobl, rydyn ni’n gallu eu cefnogi i wneud newidiadau cynaliadwy er mwyn cael buddion iechyd hirdymor heb deimlo eu bod yn cael eu hamddifadu o rywbeth, sy’n aml yn arwain at ddull o ymrwymo’n llwyr neu ddim o gwbl i ddeiet wrth golli pwysau.
“Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal am naw wythnos ond rydyn ni’n cynnig cymorth parhaus ymhell ar ôl i’r sesiynau ddod i ben.”
Mae ymgyrch Helpwch ni i’ch Helpu chi Llywodraeth Cymru yn taflu goleuni ar sut y gallwn fyw bywyd iachach. Drwy wneud nifer o ddewisiadau o ran ein ffordd o fyw, fel bwyta’n iach, bod yn egnïol a diogelu ein lles meddyliol, rydyn ni’n fwy tebygol o fyw’n hirach ac yn llai tebygol o ddatblygu afiechydon a chyflyrau iechyd difrifol.
Mae modd i unrhyw un sydd â lefel BMI sy’n uwch na 25 hunangyfeirio i ymuno â’r rhaglen Bwyd Doeth am Oes ym Mhowys. Mae’n cael ei chynnal ar-lein ac mae cymorth technoleg ddigidol ar gael os oes angen.
Os hoffech ddysgu rhagor am sut i golli pwysau mewn ffordd iach, i fod yn fwy egnïol, i newid arferion bwyta ac i oresgyn rhwystrau, ewch i: https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-cymunedol-oedolion-a-phobl-hyn/gwasanaethau-deieteg/