Neidio i'r prif gynnwy

Bydd corff newydd yn llais i bobl Cymru ar gyfer eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol.

Mae corff newydd ac annibynnol fydd yn cryfhau grym a dylanwad lleisiau pobl wrth siapio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru wedi lansio.

Mae Llais yn disodli gwaith saith Cyngor Iechyd Cymuned Cymru sydd wedi cefnogi buddiannau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau'r GIG am bron i hanner canrif.

Bydd Llais yn trawsnewid y ffordd mae defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi. Gan weithio'n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ar draws gofal cymdeithasol a gofal iechyd gyda'i gilydd am y tro cyntaf, bydd yn cynnig ffordd i bobl Cymru ddweud eu dweud yn y gwaith o gynllunio a darparu'r gwasanaethau sydd mor bwysig i'w bywydau nhw a bywydau eu hanwyliaid.

Mae staff a gwirfoddolwyr Llais yn weithgar mewn cymunedau lleol ledled Cymru, gan wrando ar farn pobl, ac yn defnyddio'r hyn maen nhw'n ei glywed i helpu i wneud iechyd a gofal cymdeithasol yn well i bawb. Mae Llais hefyd yno i gefnogi pobl i wneud cwynion drwy wasanaeth eiriolaeth cwynion cyfrinachol.

Meddai Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Bydd Llais yn cryfhau lleisiau a chynrychiolaeth pobl, yn eu galluogi nhw i leisio’u barn, ac yn eu helpu i siapio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

"Bydd Llais yn helpu i adeiladu mwy o gysylltiadau rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, unigolion a chymunedau, gan hyrwyddo llais y dinesydd sy’n wirioneddol gynrychioliadol i bawb, o bob oed, ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru."

Un o brif amcanion y corff yw cynnwys lleisiau mwy amrywiol yn y sgwrs drwy weithio gyda phobl a chymunedau y mae eu safbwyntiau a'u profiadau heb eu cynrychioli’n ddigonol, er mwyn gwneud yn siŵr bod cyrff iechyd a gofal cymdeithasol, llunwyr polisïau ac eraill yn ymateb i brofiadau gan bobl o bob cefndir gwahanol.

Mae Llais yn cynnig gofod diogel ac ymatebol i bobl rannu eu profiadau bywyd go iawn o iechyd a gofal cymdeithasol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae hyn yn cynnwys ymweld â defnyddwyr gwasanaethau ac ymgysylltu â nhw lle maen nhw’n derbyn gwasanaethau i glywed eu barn am eu gofal iechyd a'u gofal cymdeithasol.

Meddai'r Athro Medwin Hughes, Cadeirydd Llais: "Drwy weithgareddau Llais, rydyn ni am greu darlun o'r hyn sy'n gweithio'n dda a ble mae angen i wasanaethau wella, gan sicrhau bod barn pobl Cymru'n cael ei chynrychioli mewn penderfyniadau pwysig.

"Ein nod yw bod yn gorff gwirioneddol gynrychioliadol sy'n canolbwyntio ar bobl. Rydyn ni o’r farn y dylai pawb yng Nghymru allu lleisio’u barn a rhannu eu profiadau yn rhwydd ac mewn ffordd sy'n dylanwadu ar newid go iawn." 

Meddai Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i bawb sy'n ymwneud â Llais wrth i ni geisio adeiladu ar waith gwerthfawr y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i ymgysylltu â holl aelodau'r gymuned ac ehangu ein gwaith i ofal cymdeithasol.

"Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn allweddol i'n llwyddiant ni ac yn grŵp mae Llais yn ei werthfawrogi'n fawr. Mae nawr yn amser gwych i ymuno wrth i ni dyfu a chyflwyno cyfleoedd gwirfoddoli newydd. Byddwn yn annog pawb i ddod i ymuno â ni a bod yn rhan o newid gwirioneddol wrth siapio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru."

 

Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan, ewch i: www.llaiswales.org

 

  • Mae Llais yn gweithredu ar draws 7 rhanbarth - Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Gwent, Gorllewin Cymru, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, Gogledd Cymru a Phowys.  Mae'r rhanbarthau hyn yn cyfateb i'r ardaloedd daearyddol sy'n cynnwys y 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru.
  • Bydd Llais yn ymgysylltu â grwpiau a byrddau lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol, gan gynnwys Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, ac yn ymateb i ymgynghoriadau ffurfiol gan sicrhau bod barn y bobl yn cael ei chynrychioli wrth wneud penderfyniadau.
  • Fel y mae'r Byrddau Iechyd Cymuned wedi'i wneud yn y gorffennol, bydd Llais hefyd yn parhau i gyhoeddi adroddiadau craff ar y materion iechyd a gofal cymdeithasol sydd bwysicaf i bobl Cymru.

 

Rhyddhawyd: 24/04/2023

 

Rhannu:
Cyswllt: