Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pob oedolyn cymwys ym Mhowys yn derbyn gwahoddiad ar gyfer eu brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd mis Ionawr.

Bydd pob oedolyn cymwys ym Mhowys yn derbyn gwahoddiad ar gyfer eu brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd mis Ionawr.

Mae'r rhaglen bellach yn cyflymu yn dilyn canllawiau newydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf (29 Tachwedd) gan y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI). Mae'r corff cenedlaethol arbenigol hwn bellach yn argymell brechlyn atgyfnerthu i bawb 18 oed a throsodd, yn ogystal â phobl ifanc rhwng 16-17 oed sydd o fewn rhai grwpiau risg. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn eu hargymhellion.

Gall brechlynnau atgyfnerthu bellach cael eu cynnig ar ôl tri mis, sy'n golygu bydd y bwrdd iechyd nawr yn gwahodd y rhai yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf a gafodd eu hail ddos fwy na chwe mis yn ôl.

Cynigir gwahoddiadau yn y drefn flaenoriaeth genedlaethol ganlynol:

  • Pobl 80 oed a throsodd a gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen (gan gynnwys gweithwyr cartrefi gofal)
  • Pobl 75-79 oed
  • Pobl 70-74 oed a phobl sy’n eithriadol o agored i niwed clinigol o ganlyniad i COVID-19
  • Pobl 65-69 oed
  • Pobl 16-64 oed sydd â chyflwr iechyd sylfaenol sy’n agored i niwed difrifol o ganlyniad i COVID-19 
  • Pobl 60-64 oed
  • Pobl 55-59 oed
  • Pobl 50-54 oed
  • Pobl 40-49 oed
  • Pobl 30-39 oed
  • Pobl 18-29 oed

Gwahoddir pobl hŷn ac eraill mewn grwpiau risg uchel hyd at dri mis ar ôl eu hail ddos. Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o bobl 18-49 oed, nad ydynt mewn grŵp risg uwch yn cael gwahoddiad am apwyntiad ym mis Ionawr. 

Dywedodd Adrian Osborne, Cyfarwyddwr y Rhaglen Frechu COVID-19 i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Yn dilyn y canllawiau diweddaraf yr wythnos diwethaf rydym yn cynyddu ein rhaglen frechu yma ym Mhowys. Bydd ein canolfannau brechu yn cynnig mwy o ddosau bob dydd, ac yn agor ar fwy o ddiwrnodau bob wythnos. Hoffwn ddiolch i’r tîm am ei waith di-dor, gan mai dim ond oherwydd y bobl sy'n ei chyflwyno y mae'r rhaglen frechu hon yn bosibl - yn ogystal â'r gefnogaeth anhygoel gan bobl Powys."

"Byddwn hefyd angen eich help a'ch amynedd i gynnig hyd yn oed mwy o frechlynnau atgyfnerthu, i fwy o bobl, yn gyflymach," ychwanegodd Mr Osborne. "Dyma rai ffyrdd y gallwch chi ein helpu:

  • Sicrhewch eich bod yn gallu mynychu'r apwyntiad cyntaf a gynigiwn i chi. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros sawl wythnos am apwyntiad newydd
  • PEIDIWCH â chysylltu â ni i gael gwybod pryd fydd eich apwyntiad. Byddwch yn derbyn llythyr gwahoddiad yn y drefn flaenoriaeth uchod, yn seiliedig ar oedran a bregusrwydd.
  • Cyrhaeddwch i’ch apwyntiad ar amser (ddim yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr). Mae hyn yn lleihau’r amser aros, ac yn gwella’r llif traffig.
  • Diolch am eich amynedd ac am fod yn hyblyg. Rydym yn darparu mwy o wahoddiadau ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu nag erioed, ac mae hyn yn golygu y gallech dderbyn eich apwyntiad ar fyr rybudd.
  • Diolch am helpu ffrindiau, teuluoedd a chymdogion i gyrraedd eu hapwyntiad brechu yn ddiogel.
  • Gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd, ond cofiwch fod rhai i ni gael mynediad at eich braich i’ch brechu. Os yw’n brysur, mae’n bosibl fydd angen aros mewn ciw tu allan. Mae’n ddrwg gennym am hyn, rydym yn gweithio mor gyflym â phosibl i frechu pawb. 

"Rydym yn cydnabod bod ein Tîm Trefnu Apwyntiadau yn brysur iawn ar hyn o bryd, ac rydym yn deall bod hwn yn rhwystredig iawn os ydych yn ceisio aildrefnu eich apwyntiad. Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau o’n tîm sy’n gweithio oriau ychwanegol i ddelio gyda’r holl ymholiadau. Rydym hefyd yn cynyddu'r nifer o staff yn ein tîm archebu apwyntiadau, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Powys sydd wedi bod yn ein cefnogi gyda hyn.

"Diolch i'n holl drigolion am gefnogi’r rhaglen frechu COVID-19. Powys sy'n parhau i fod â'r cyfraddau uchaf o ddos gyntaf, ail ddos a brechlynnau atgyfnerthu o fewn yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru. Oherwydd y bobl ym Mhowys y mae hyn yn bosibl."

Cyhoeddwyd 7 Rhagfyr 2021

Rhannu:
Cyswllt: