Neidio i'r prif gynnwy

Cadeirydd CffI yn annog pobl ifanc i ofyn am gymorth iechyd meddwl

Wrth iddi gyrraedd diwedd ei chyfnod fel Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Maldwyn, mae Bryony Wilson yn annog pobl ifanc i ofyn am gymorth os ydyn nhw’n ei chael hi’n anodd o ran iechyd meddwl.

Roedd Bryony wrth law yr wythnos yma i ddadorchuddio Mainc Siarad a gafodd ei chreu gan Alfie Taylor o Glwb Ffermwyr Ifanc Aberriw. Diolch i gyllid gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, mae Clybiau Ffermwyr Ifanc ledled Powys wedi cael eu gwahodd i ddylunio a chreu Meinciau Siarad yn y gobaith y byddan nhw’n dod yn fannau canolog i’r gymuned:

“Y meinciau ydy’n ffordd ni o fynd i’r afael ag unigedd cymunedol,” meddai Bryony. “Yn Aberriw, er enghraifft, mae gennon ni lawer o bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain. Bydd y meinciau yn cael eu gosod wrth galon bywyd y pentref a bydd ganddyn nhw fanylion am linellau cymorth os bydd angen rhywfaint o gefnogaeth ar bobl.”

Yn ogystal, fel rhan o ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi gan Lywodraeth Cymru, sy’n annog pobl i amddiffyn eu hiechyd meddwl drwy ddefnyddio cymorth sydd ar gael am ddim, siaradodd Bryoyny am ei phrofiadau ei hunan:

“Ro’n i’n ei chael hi’n anodd ychydig flynyddoedd yn ôl. Mi ddechreuodd popeth ar ôl i fi fynd am brawf ceg y groth a chael gwybod fy mod wedi cael canlyniad annormal,” meddai Bryony. “Roedd popeth yn iawn yn y diwedd, ond fe arweiniodd hynny at deimlo’n orbryderus cyn i fi gael y canlyniad. Do’n i ddim yn gallu cysgu ac o’n i’n cael pyliau o banig yn ystod y dydd a’r nos. Cafodd hynny effaith fawr, nid yn unig arna i, ond ar fy nheulu hefyd achos doedden nhw ddim yn gwybod sut i fy helpu.

“Roedd y GIG yn wych. Mi roddodd y meddyg sicrwydd i fi mai dioddef o orbryder o’n i, ac mi roddodd feddyginiaeth i fi. Erbyn hyn, dw i’n gallu adnabod y symptomau, sy’n helpu, ond dw i’n dal i gymryd y feddyginiaeth. Mae’n bwysig fy mod i’n agored am y peth achos mae’n bosib na fyddai pobl yn meddwl y byddwn i’n rhywun sy’n dioddef gan fy mod i’n ymddangos mor hwyliog a hyderus.”

Ar sail ei phrofiadau ei hunan o nosweithiau di-gwsg a phyliau o banig, penderfynodd fabwysiadu Mind Cymru fel yr elusen swyddogol ar gyfer CFfI Maldwyn. Yn ogystal, mae aelodau wedi cyflawni hyfforddiant iechyd meddwl gyda Sefydliad DPJ, sef elusen iechyd meddwl yng Nghymru sy’n cefnogi pobl mewn amaethyddiaeth a chymunedau gwledig.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys hefyd wedi dyfarnu grant i Glybiau Ffermwyr Ifanc sydd wedi buddsoddi mewn sesiynau cymorth iechyd meddwl gan gymheiriaid drwy Mind Cymru yn ogystal â chyfleoedd i roi cynnig ar Tai Chi er mwyn ymlacio.

“Mae pobl sy’n agos i fi wedi dioddef gydag iselder ysbryd,” ychwanega Bryony. “Mi laddodd fy ewythr ei hunan yn 2020, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n annog pobl i siarad ac i ofyn am gymorth os ydyn nhw’n dioddef. Fyswn i ddim am i deulu arall fynd drwy’r hyn rydyn ni wedi mynd drwyddo.

“Mae ffermwyr, yn arbennig, yn treulio cymaint o amser ar eu pennau eu hunain, felly mae cael cyfle i siarad â rhywun yn anoddach fych. Dw i’n meddwl ei bod hi’n wir nad ydy’r rhan fwyaf o ddynion yn dda iawn am siarad am eu teimladau, a dw i’n siŵr bod ffermwyr yn waeth. Maen nhw’n cael eu magu i fod yn gryf, yn ymarferol ac yn galed. Ond mewn gwirionedd, y peth cryf ac ymarferol i’w wneud pan fyddwch chi’n dioddef ydy gofyn am gymorth,” ychwanega Bryony.

Mae ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi gan Lywodraeth Cymru yn annog pobl i wneud newidiadau bach i’w helpu i fyw bywyd iachach fel amddiffyn eich iechyd meddwl.

Joy Garfitt yw’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Meddai: “Mae yna bethau bach y gallwn ni eu gwneud i helpu i amddiffyn ein hiechyd meddwl ar adeg pan fydd lefelau gorbryder yn uwch. Rydyn ni’n gwybod y gall iechyd meddwl gwael fod yn broblem o fewn amaethyddiaeth ac mewn ardaloedd anghysbell yng nghefn gwlad, ond mae cymorth am ddim ar gael ac rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n dioddef i ofyn am gymorth.”

Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, mae cefnogaeth am ddim ar gael i chi. Gall rhaglen ar-lein SilverCloud GIG Cymru helpu gyda gorbryder, iselder ysbryd a straen. Gallwch chi atgyfeirio eich hunan yn https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup

Gallwch hefyd atgyfeirio eich hunan at Gymdeithas Pont-hafren i gael gwasanaeth cwnsela yn www.ponthafren.org.uk neu ffonio 01686 621586.

Rhannu:
Cyswllt: