Neidio i'r prif gynnwy

Cam Ymgysylltu Terfynol Ambiwlans Awyr Cymru yn Cau

hofrennydd a chriw

Annwyl Randdeiliad,

Mae'r trydydd cam ymgysylltu a'r cam ymgysylltu olaf yn Adolygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (GCTMB) bellach ar gau ac roeddwn i eisiau diolch i'r cyhoedd a rhanddeiliaid am roi adborth am sut i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ymhellach.

Rwy'n ddiolchgar am yr holl ymatebion a anfonwyd i mewn drwy gydol mis Chwefror yr ydym wedi'u derbyn trwy nifer o lwybrau. Dylech fod yn sicr y bydd eich barn yn cael ei hystyried yn gyfartal pa bynnag ffordd rydych chi wedi dewis ymateb i'r ymgysylltiad.

Fel yn y cyfnodau ymgysylltu blaenorol, mae'r holl adborth yn cael ei ystyried a fydd yn fy helpu i gyrraedd yr opsiwn a ffefrir y byddaf wedyn yn gallu ei argymell yn ffurfiol i'r Pwyllgor ar gyfer eu penderfyniad ar 19 Mawrth 2024. Bydd yr holl ddiweddariadau yn parhau i gael eu cyhoeddi ar wefan PGAB.  

Diolch unwaith eto am eich cyfraniadau i'r Adolygiad hwn a rhowch wybod i ni os hoffech gael eich tynnu oddi ar y rhestr hon ar unrhyw adeg.

Cofion gorau

Stephen Harrhy, Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans

 

5/3/24

Rhannu:
Cyswllt: