Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau newydd ar frechu COVID-19 ar gyfer pobl ifanc 16-17 oed a phobl 40+ oed

Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio (JCVI) ganllawiau newydd ar frechu COVID-19 ddydd Llun 15 Tachwedd.

Mae hyn yn cynnwys:

  • cynnig ail ddos i bobl ifanc 16-17 oed o leiaf 12 wythnos ar ôl eu dos cyntaf ac o leiaf 12 wythnos ar ôl cadarnhau COVID-19 (ee prawf PCR positif)
  • cynnig hwb i bawb 40+ oed o leiaf 6 mis ar ôl iddynt gwblhau eu cwrs cynradd.

Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion hyn ar 15 Tachwedd, ac rydym bellach yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i weithredu hyn.

Fel rheol, bydd pobl 40+ oed yn derbyn gwahoddiad 6-7 mis ar ôl eu hail ddos. Os yw eisoes dros 7 mis ers eich ail ddos, defnyddiwch ein Ffurflen Mynediad Blaenoriaeth .

Cyhoeddir mwy o wybodaeth am ail ddosau pobl ifanc 16-17 oed yn Powys yn fuan. Cadwch lygad am fanylion pellach yn fuan.

Gwybodaeth ddefnyddiol:

Cyhoeddwyd 15 Tachwedd 2021

Rhannu:
Cyswllt: