Neidio i'r prif gynnwy

Canolbwyntiwch ar ... Iechyd Llygaid

Problemau llygaid brys

Os oes gennych broblem llygaid sydd angen sylw brys, cysylltwch yn uniongyrchol â'ch optometrydd (optegydd) lleol. Mae optometryddion yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig sy'n rhoi diagnosis o broblemau iechyd llygaid a'u trin. Mae'r mwyafrif o bractisau optometreg yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau iechyd llygaid y GIG. Gallwch fynd i'ch practis arferol neu gysylltu ag unrhyw optometrydd ar y stryd fawr sy'n cynnig gwasanaethau'r GIG. 

Os oes gennych broblemau llygaid brys y tu allan i oriau, cysylltwch â GIG 111 Cymru

Mae triniaeth y GIG ar gyfer problemau iechyd llygaid ar gael yn rhad ac am ddim. Dyma enghreifftiau o broblemau llygaid brys:

  • golwg sy’n troi’n aneglur neu’n niwlog yn sydyn
  • golwg sy'n dirywio
  • goleuadau'n fflachio
  • brychau neu smotiau tywyll yn y maes golwg
  • llygaid sy’n teimlo’n goslyd neu fel petai grut/tywod ynddynt
  • llygad sy’n waetgoch, yn boenus neu’n gochlyd
  • cur pen/pen tost
  • amrant chwyddedig neu byfflyd
  • crafiad ar y llygad
  • llygad yn smicio/twitsio

Profion llygaid rheolaidd ac atal

Mae profion llygaid rheolaidd yn sicrhau bod problemau'n cael eu canfod yn gynnar, gan amddiffyn eich golwg ac adnabod cyflyrau difrifol fel glawcoma, diabetes a phwysedd gwaed uchel. Dylech gael prawf llygaid bob 2 flynedd, neu'n amlach os bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich cynghori i wneud hynny.

Profion llygaid y GIG am ddim

Mae llawer o bobl yng Nghymru yn gymwys i gael profion llygaid y GIG am ddim gan gynnwys plant hyd at 16 oed a phobl ifanc o dan 19 oed sydd mewn addysg amser llawn.

Mae GIG Cymru hefyd yn darparu sbectol am ddim i blant os oes eu hangen.

Cymorth gyda chostau gofal llygaid y GIG

Darganfyddwch a oes gennych chi hawl i gael prawf golwg am ddim gan y GIG a chymorth tuag at gostau sbectolau neu lensys cyffwrdd.

Dysgwch fwy o'n tudalen Iechyd Llygaid .

Darganfyddwch lawer o ffyrdd o gael y gofal cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf o dudalennau Helpu Ni i'ch Helpu Chi .