Yn y mis nesaf bydd partneriaeth frechu Freedom Leisure gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dod i ben ar ôl blwyddyn.
Bu’r Ganolfan Brechu Dorfol yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn yn y Drenewydd ers Ionawr 2021 ac yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi darparu dros 125,000 dos o’r brechlyn, yn darparu amddiffyniad hanfodol i bobl yng ngogledd y sir. Gyda rhan fwyaf o oedolion y sir bellach wedi derbyn eu brechlyn atgyfnerthu, gall y ganolfan brechu symud i safle llai o faint yn Stryd y Parc, ble ddechreuodd ymdrechion brechu Gogledd Powys yn wreiddiol yn Rhagfyr 2020.
Dywedodd Adrian Osborne, Cyfarwyddwr Rhaglen Frechu COVID-19 a Phrofi Olrhain Diogelu i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Ni fyddai'r cynnydd ar y rhaglen Frechu COVID-19 ym Mhowys wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Freedom Leisure. Mae’r tîm yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn wedi rhoi cefnogaeth anhygoel i'r rhaglen, a gwn y bydd ein timau'n methu'r ffrindiau cyfeillgar gwnaethon dros y flwyddyn.
"Mae ein canolfan frechu yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn wedi darparu dros 125,000 dos o frechlyn COVID, gan gynnig amddiffyniad hanfodol ac achub bywydau. Dim ond lleoliad maint Canolfan Hamdden Maldwyn y gall wedi darparu’r brechlyn ar y raddfa ddigynsail yr oedd angen dros y 13 mis diwethaf. Bellach mae’r rhan helaeth o oedolion ym Mhowys wedi derbyn eu brechlyn atgyfnerthu. Mae hyn yn golygu gallwn symud i adeilad llai o faint ar gyfer cam nesaf y rhaglen, a byddwn yn dychwelyd at ein lleoliad blaenorol yn Stryd y Parc Y Drenewydd erbyn canol mis Chwefror. Gwiriwch leoliad eich apwyntiad brechu COVID-19 ar eich llythyr gwahoddiad, gan fydd y ganolfan yn Y Drenewydd yn symud mis nesaf.
“Mae brechu yn parhau i gynnig amddiffyniad hanfodol, yn lleihau risg o salwch difrifol a marwolaeth o ganlyniad i COVID-19. Powys sydd â'r cyfraddau brechu uchaf o holl fyrddau iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn bosibl oherwydd y trigolion anhygoel ym Mhowys sy’n manteisio ar y cynnig, a'r tîm o staff a gwirfoddolwyr sy'n cyflwyno'r rhaglen."
Mae brechlynnau dos cyntaf a'r ail ddos yn parhau i fod ar gael mewn clinigau galw heibio i unrhyw un 12+ oed, a gallwch alw heibio hefyd i gael y brechlyn atgyfnerthu os ydych yn 18+. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/brechu-covid-19/ a thrwy gyfryngau cymdeithasol y bwrdd iechyd.
Ychwanegodd Mr Osborne: “Hoffwn ddweud diolch wrth yr holl dîm yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn bendant, aeth y tîm uwchlaw a thu hwnt, gan gynnwys ymuno â ni fel Stiwardiaid Wayfinding gwirfoddol, a bellach yn aelodau anrhydeddus o deulu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys."