Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan profi cyflym COVID-19 i bobl heb symptomau yn dod i'r Drenewydd yn ystod mis Mehefin

Mae gwasanaeth profi cyflym newydd i bobl heb symptomau COVID-19 yn dod i'r Drenewydd am bedair wythnos o 7 Mehefin.

Gall pobl sy'n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal y Drenewydd alw heibio i Ganolfan Ddydd Stryd y Parc yn y Drenewydd rhwng 10am a 6pm, saith diwrnod yr wythnos am brawf am ddim.

Bydd y rhaglen beilot hon yn helpu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys i ddeall mwy am ledaeniad coronafeirws yn y sir, ac i atal achosion yn y dyfodol.

Meddai Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

"Rydyn ni'n gwybod y gall un o bob tri o bobl gael coronafeirws heb arddangos y symptomau clasurol, sef tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholli neu brofi newid mewn arogl neu flas. Felly, bydd y rhaglen hon yn ein helpu i gasglu darlun cynhwysfawr iawn o’r coronafeirws yn ardal y Drenewydd. Bydd y wybodaeth a gasglwn yn ein helpu i Ddiogelu Powys, ac rydym yn gobeithio y bydd yn ein cefnogi ni i gyd tuag at gamau pellach i leddfu'r cyfyngiadau ar ein bywydau bob dydd.

"Er bod achosion coronafeirws yn ardal y Drenewydd yn isel iawn ar hyn o bryd, rydym hefyd yn gwybod bod amrywiolion newydd yn fygythiad parhaus i bob un ohonom yng Nghymru. Mae profi pobl heb symptomau (profion asymptomatig) yn arf defnyddiol i nodi unrhyw amrywiolion newydd ac i'n helpu i'w hatal."

Bydd y ganolfan profi asymptomatig yn defnyddio profion llif unffordd i wirio am bresenoldeb coronafeirws. Bydd unrhyw un sy'n profi’n bositif gyda’r prawf llif unffordd yn cael ei gyfeirio at ganolfan profi'r dref ar gyfer prawf PCR.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Baynham, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Wasanaethau Rheoleiddio:

"Mantais allweddol wrth ddewis y Drenewydd fel lleoliad ein canolfan profi asymptomatig yw'r gallu i gyfeirio pobl yn gyflym am brawf PCR yn y dref.

"Yn ogystal â'n helpu i ddeall mwy am ledaeniad coronafeirws ym Mhowys, bydd hwn yn gyfle hanfodol i ni dreialu'r math hwn o ganolfan profi torfol mewn lleoliad gwledig. Bydd profion yn parhau i fod yn hanfodol i atal tonnau pellach o’r coronafeirws yn y dyfodol, ac i atal unrhyw bandemig pellach. Felly, bydd ein profiad o redeg canolfan profi asymptomatig yn y Drenewydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn ein parodrwydd ar gyfer y dyfodol. Bydd yn golygu bod gennym fodel profedig o brofion cymunedol y gallwn eu rhoi ar waith yn gyflym os byddwn yn wynebu achosion yn y dyfodol."

"Rydym yn annog pawb i alw draw i gymryd y prawf. Mae ein canolfan ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 6pm yng Nghanolfan Ddydd Stryd y Parc tan 4 Gorffennaf. Gallwch alw heibio unrhyw bryd rhwng 10am a 6pm."

Mae Cymru gyfan ar lefel rhybudd 2, ac mae'n hanfodol i bob un ohonom barhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i atal lledaeniad Coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys dilyn rheolau pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb.

Mae datblygiadau'r ganolfan yn brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl heb symptomau COVID-19. Dylai pobl sydd â symptomau barhau i archebu prawf yn ein canolfannau profi ledled Powys neu ofyn am brawf drwy'r post drwy ymweld â www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffonio 119 (7am i 11pm). Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Beth i'w wneud cewch chi ganlyniad positif prawf llif unffordd

  • Os cewch chi brawf llif unffordd positif, mae'n rhaid i chi hunanynysu'n syth am 10 diwrnod, a chael prawf PCR mewn canolfan brofi o fewn 24 awr.  Gallwch archebu prawf ar-lein ar GOV.UK, ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (mae galwadau am ddim) neu drwy ap COVID-19 y GIG.
  • Os yw'ch prawf PCR yn negyddol ac wedi ei gymryd o fewn 24 awr o'ch prawf llif unffordd, gallwch orffen hunanynysu.
  • Os oedd eich prawf PCR yn negyddol ond wedi ei gymryd dros 24 awr ar ôl eich prawf llif unffordd, mae'n rhaid i chi a'ch cysylltiadau barhau i hunanynysu am y 10 diwrnod llawn o ddyddiad gwreiddiol y prawf llif unffordd.
  • Os cewch chi brawf PCR positif a'i fod wedi ei gymryd o fewn 24 awr o'ch prawf llif unffordd, mae'n rhaid i chi barhau i hunanynysu am 10 diwrnod o ganlyniad y prawf llif unffordd gwreiddiol.
  • Os na fyddwch yn cael prawf PCR o fewn 24 awr, mae'n rhaid i chi hunanynysu am 10 diwrnod.

Mae rhagor o wybodaeth am brofion llif unffordd yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Profion llif unffordd COVID-19 ar gyfer pobl heb symptomau | LLYW.CYMRU

Mae rhagor o wybodaeth am brofion coronafeirws ym Mhowys ar gael yn https://biap.gig.cymru/yma/pod

Rhannu:
Cyswllt: