Eich cefnogi chi tra bod ffordd yr A493 ar gau ym mis Chwefror 2024
Mae Contractwyr Alun Griffiths wedi ein cynghori bod yr A493 yn cau dros dro i'r gogledd o Fachynlleth yn ystod mis Chwefror 2024 a fydd yn effeithio ar deithio rhwng Machynlleth ac ardal Aberdyfi/Pennal/Tywyn.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r contract adeiladu Pont ar Ddyfi Newydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Griffiths a chliciwch ar "newyddion" am y Cwestiynau Cyffredin diweddaraf dolen:A487: pont Ddyfi newydd – Griffiths Community
Mae'r wybodaeth isod yn gywir ar 8 Chwefror 2024.
Beth sy'n digwydd?
Fel rhan o Waith Gwella Pont ar Ddyfi Newydd, mae gwaith adeiladu yn cael ei wneud i wella’r system draenio i ddiogelu rhes o adeiladau rhestredig Gradd 2 (Bythynnod Dyfi) rhag llifogydd yn y dyfodol. Mae angen i'r gwaith hwn gael ei wneud yn gynnar ym mis Chwefror 2024.
Mae angen cau'r A493 i draffig am tua 100 metr o’r ffordd ar hyd blaen Bythynnod Dyfi ym Mhont ar Ddyfi dros gyfnod o 30 diwrnod er mwyn i'r gwaith hwn gael ei wneud yn ddiogel. Bydd mynediad i gerddwyr a beiciau yn parhau o hyd. Bydd parcio a man gollwng a chasglu bysys ar gael ar ddwy ochr y rhan o’r ffordd sydd ar gau.
Bydd yr A487 Pont ar Ddyfi Newydd ar agor i draffig tra bod y ffordd gau.
Bydd y ffordd ar gau o ddydd Sadwrn 10fed Chwefror 2024. Disgwylir i'r holl waith angenrheidiol gael ei gwblhau o fewn 30 diwrnod (os yw'r tywydd yn caniatáu).
Bydd hyn yn effeithio ar fynediad rhwng Machynlleth ac ardal Pennal, Aberdyfi, Tywyn.
Negeseuon Allweddol i Gleifion
- Bydd y gwaith ffordd sy'n digwydd o 10fed Chwefror yn effeithio ar eich taith o ardaloedd Tywyn, Aberdyfi a Phennal i Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi gan gynnwys i Feddygfa Iechyd Bro Ddyfi.
- Bydd hyn hefyd yn effeithio ar ymweliadau cymunedol sy’n cael eu cynnal gan ein staff cymunedol.
- Mae gwyriad swyddogol ar waith trwy Ddolgellau. Mae Griffiths (y contractwyr sy'n ymgymryd â'r gwaith) wedi cynghori y bydd parcio ar gael bob ochr i'r ffordd sy’n cau lle gallwch barcio eich car a cherdded drwy'r safle. I'r rhai sydd angen cymorth meddygol ym Machynlleth bydd gwasanaeth tacsi am ddim ar gael gan Mach Taxis rhwng 8yb a 6yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- Dylech ganiatáu mwy o amser i deithio ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb, a chysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion yn eich llythyr apwyntiad os hoffech aildrefnu eich apwyntiad nes i'r gwaith ffordd gael ei gwblhau, neu i drafod apwyntiad dros y ffôn neu ar-lein.
- Os ydych chi'n ymweld â pherthynas ar Ward Twymyn, siaradwch â'r ward gan ein nod yw cynnig ymweliad hyblyg sy’n gweithio o amgylch eich gofynion teithio tra bod y ffordd ar gau.
- Mae ein tîm nyrsio ardal yn gweithio'n agos gyda'u cydweithwyr yn Ne Gwynedd i gynnig gofal parhaus.
- Mae Iechyd Bro Ddyfi wedi rhannu gwybodaeth ddefnyddiol gyda'u cleifion.
- Mae cyngor a gwybodaeth iechyd defnyddiol ar gael ar wefan GIG 111 Cymru yn 111.gig.cymru neu drwy ffonio 111.
- Mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd, ffoniwch 999.
Diolch am eich amynedd.
Cyhoeddwyd: 09/02/2024