Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth o £64 miliwn ar gyfer cynllun ledled y du i gryfhau cyflenwi ymchwil clinigol

  • Gwell canlyniadau iechyd trwy ymchwil mwy effeithiol ac effeithlon gan adeiladu ar wersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig
  • Hyrwyddo amgylchedd ymchwil clinigol sy'n canolbwyntio ar y claf, yn arloesol ac wedi'i alluogi gan ddata
  • Ymgorffori ymchwil yn y GIG i gynyddu capasiti a gallu'r DU i ddarparu ymchwil clinigol blaengar

 

Dywedodd yr Arglwydd Bethell, y Gweinidog Arloesi:

“Bydd gweithio gyda chydweithwyr yn y gweinyddiaethau datganoledig ac ar draws y sector ar y cynllun uchelgeisiol hwn yn sicrhau ein bod yn datblygu amgylchedd ymchwil clinigol sydd o fudd i bawb ym mhob rhan o'r DU.

“Dyma'r cam cyntaf mewn gweledigaeth uchelgeisiol fawr. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y sylfeini cryf hyn i ddarparu ecosystem ymchwil sy'n gosod y DU fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil clinigol blaengar. Gydag ymchwil wedi'i ymgorffori ledled y GIG, bydd y DU yn arweinydd byd-eang mewn treialon ar gyfer triniaethau a thechnolegau newydd.”

Mae cyhoeddi'r cynllun yn dilyn o gytundeb hanesyddol Gweinidogion Iechyd y G7 i greu siarter treialon clinigol Therapiwteg a Brechlynnau newydd yn nodi’r egwyddorion a rennir i gyflymu'r modd y mae treialon clinigol yn cynhyrchu tystiolaeth gadarn a sut y gellir gweithredu eu canfyddiadau yn y pandemig hwn ac mewn pandemigau yn y dyfodol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan: 

“Mae gan Gymru gyfleoedd gwych ar gyfer ymchwil clinigol ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae ein rhan i wneud system ymchwil clinigol y DU yn un o'r goreuon, os nad y gorau, yn y byd. Mae'r cynllun a lansiwyd heddiw yn garreg gamu allweddol i gyflawni ein huchelgeisiau ar y cyd. Rwy’n falch iawn o weld yr aliniad cryf i’n strategaeth ‘Cymru Iachach’, lle mae unigolion wrth wraidd trawsnewid a moderneiddio gwasanaethau iechyd a gofal, a lle mae ymchwil wedi’i ymgorffori mewn gofal o ansawdd uchel.

“Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn parhau i weithio ar y cyd gyda’r holl bartneriaid, ledled y DU ac ar draws Cymru, wrth i ni geisio atebion arloesol a gweithredu’r cynllun uchelgeisiol hwn er budd y cyhoedd, cleifion a’r gweithlu.”

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth yr Alban, Humza Yousaf:

“Mae gan yr Alban hanes hir o ymchwil iechyd arloesol a thrwy Ymchwil GIG yr Alban a Swyddfa Prif Wyddonydd Llywodraeth yr Alban, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid ledled y DU i greu amgylchedd ymchwil mwy arloesol a gwydn a fydd yn y pen draw yn gwella bywydau cleifion. Mae'r cynllun rydyn ni wedi'i lansio heddiw yn cydnabod pwysigrwydd cydweithredu a gweithio trawsffiniol, gan sicrhau bod y DU yn lleoliad cydlynol a symlach i ddenu ac ymgymryd ag ymchwil mewn economi fyd-eang.”

Dywedodd Robin Swann, Gweinidog Iechyd, Gogledd Iwerddon:

“Mae Gogledd Iwerddon yn cydnabod gwerth dull gweithredu ymchwil clinigol ledled y DU ac rydym wedi ymrwymo i gymryd rhan i gyflenwi'r weledigaeth hon. Rydym eisoes yn chwarae rhan lawn mewn llawer o'r ffrydiau gwaith ledled y DU, gan weithio mewn partneriaeth tuag at atebion cyfunol a chydnaws i greu ecosystem ymchwil clinigol sydd o fudd i bob claf ledled y DU.”

Bydd gweithio ar y cyd a gwaith partneriaeth agos rhwng sefydliadau ledled y DU trwy'r rhaglen Adfer, Cydnerthedd a Thwf Ymchwil Clinigol y DU (RRG) - sy'n cynnwys cynrychiolwyr o holl adrannau iechyd y DU, y GIG, rheoleiddwyr, yr NIHR, elusennau ymchwil meddygol a diwydiant - yn helpu i wneud y DU un o'r lleoedd gorau yn y byd i gynnal ymchwil clinigol blaengar.

Dywedodd Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae ymchwil clinigol wedi bod yn hanfodol yn ein brwydr yn erbyn COVID-19 ac wedi arbed miloedd o fywydau. Gan weithio gyda llywodraethau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae ein gweledigaeth uchelgeisiol ledled y DU ar gyfer dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol yn hanfodol os ydym am adeiladu ar y momentwm cyffrous hwn ac achub bywydau. Rydym yn gwireddu’r weledigaeth hon trwy barhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid ledled y DU, y GIG, rheoleiddwyr, diwydiant ac sector ymchwil meddygol. Byddwn yn creu system ymchwil clinigol mwy arloesol, gwydn sy'n canolbwyntio ar y claf.”

Ni fu'r cysylltiad rhwng ymchwil a budd i gleifion trwy driniaethau a gofal gwell erioed yn gliriach. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ymdrechion ymchwil y DU sy’n brwydro yn erbyn COVID-19 wedi atgyfnerthu’r rôl hanfodol y mae ymchwil clinigol yn ei chwarae yn iechyd y boblogaeth. Bydd parhau i ddatblygu triniaethau a brechlynnau COVID-19 newydd yn sicrhau dull manteisiol wrth fynd i'r afael â'r feirws.

Bydd y gweithgaredd yn ystod y misoedd nesaf yn cynnwys:   

Gyrru adferiad portffolio ymchwil clinigol y DU, wrth barhau i ddatblygu a threialu triniaethau a brechlynnau COVID-19 newydd - gan weithio ledled y DU mewn partneriaeth â'r cyllidwyr ymchwil, y gweinyddiaethau datganoledig a rhanddeiliaid eraill i nodi'r astudiaethau mwyaf brys sydd angen cefnogaeth i wella. Gwneud cyflenwi ymchwil clinigol y DU yn haws, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol trwy fentrau allweddol gan gynnwys adolygiad moeseg ymchwil cyflym sy'n caniatáu cymeradwyaeth gyflymach ar gyfer ymchwil a rhoi treialon ar waith yn gyflymach. Hybu capasiti ymchwil clinigol, gan gynnwys trwy gynyddu nifer y treialon rhithwir ac o bell, galluogi mwy o ymchwil i ddigwydd y tu allan i leoliadau traddodiadol y GIG, ac ehangu Canolfannau Recriwtio Cleifion i ddarparu capasiti ychwanegol ar gyfer ymchwil masnachol cam hwyr. Cynyddu amrywiaeth a chyfranogiad mewn ymchwil, trwy weithio gyda phartneriaid fel y Ganolfan Iechyd BME yng Nghaerlŷr i ddatblygu systemau a phrosesau sy'n galluogi cyfeirio ymchwil iechyd  a'i gefnogi o fewn ardaloedd a chymunedau sy'n draddodiadol yn cael eu tan-wasanaethu gan ymchwil, i gynyddu amrywiaeth o ymchwilio i gyfranogwyr ac i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Digideiddio'r broses ymchwil clinigol i'w gwneud yn gyflymach ac yn rhatach trwy ddechrau creu gwasanaeth Canfod, Recriwtio ac Olrhain cyfannol, wedi'i alluogi gan ddata, gan ganiatáu i ymchwilwyr ddod o hyd i gleifion yn ddigidol, cynnig lleoedd iddynt mewn treialon a monitro canlyniadau iechyd fel rhan o'r astudiaeth, gan wneud sefydlu a chyflenwi ymchwil clinigol yn gyflymach, yn haws ac yn fwy cynhwysol, i gyflymu datblygiad arloesiadau iechyd sy'n achub bywydau. 

Bydd cleifion ledled y DU yn elwa o system ymchwil clinigol fywiog, gyda chefnogaeth o dros £64 miliwn mewn cyllid, a fydd yn helpu i ddod â thriniaethau a thechnolegau achub bywydau ledled y wlad. 

Yn dilyn y weledigaeth eofn 'Achub a gwella bywydau: dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol yn y DU a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, nododd llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig heddiw gam cyntaf y gweithgaredd ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a chaniatáu i fwy o gleifion fod yn rhan o ymchwil sydd yn berthansol iddynt, ac elwa ohono.

Bydd y gweithgaredd ar gyfer y misoedd nesaf yn cynnwys:

datblygu a threialu triniaethau a brechlynnau COVID-19 newydd gwneud cyflenwi ymchwil clinigol yn y DU yn haws trwy adolygiadau moeseg cyflymach a phrosesau cymeradwyo cyflymach hybu gallu ymchwil clinigol gyda mwy o dreialon rhithwir ac o bell cynyddu amrywiaeth a chyfranogiad mewn ymchwil mewn cymunedau nad yw ymchwil yn eu gwasanaethu'n draddodiadol digideiddio'r broses ymchwil clinigol i ganiatáu i ymchwilwyr ddod o hyd i gleifion, cynnig lleoedd iddynt mewn treialon, a monitro canlyniadau iechyd.

Rhannu:
Cyswllt: