Neidio i'r prif gynnwy

Chwaraeon anabledd yn ffynnu ym Mhowys

Gyda’r Gemau Paralympaidd yn mynd yn eu blaen, mae Chwaraeon Powys wedi datgelu bod cyfleoedd lleol i bobl anabl wedi cynyddu’n sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf.

O saethyddiaeth ac athletau i dennis a thriathlon, Powys sydd â’r nifer uchaf o glybiau insport o blith holl awdurdodau lleol Cymru. Rhaglen wedi’i chynllunio gan Chwaraeon Anabledd Cymru yw insport, sy’n cefnogi’r sector chwaraeon a hamdden i gynnig cyfleoedd cynhwysol.

Beverley Tucker yw Swyddog Chwaraeon Anabledd a Chymunedau Actif Powys. Fe’i penodwyd i’r swydd yn 2001. Meddai:

“Bryd hynny, roedd tua 500 sesiwn y flwyddyn ar gael i bobl ag anableddau ym Mhowys. Mae hynny’n golygu 500 gwaith y gallai rhywun gymryd rhan mewn sesiwn anabledd neu gynhwysol. Bellach, mae’r ffigur yna yn 28,000, ac mae ganddon ni ystod eang o chwaraeon hefyd. Rydyn ni wedi gweld twf cyflym yn nifer y rhaglenni cymunedol, sy’n golygu bod llawer mwy o ddewis i bobl anabl ar draws y sir erbyn hyn, ac felly maen nhw’n fwy tebygol o ganfod camp maen nhw’n ei mwynhau.

“Dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu y byddan nhw’n dod yn Baralympiad, achos nid pawb sydd eisiau cystadlu ar y lefel uchaf. Mae’n ymwneud â chadw’n heini, cwrdd â phobl newydd, a gofalu am eich iechyd a’ch lles. Wrth gwrs, mae lle i’w wella yn dal i fod, ac rydyn ni’n gweithio’n galed gyda chlybiau chwaraeon, ysgolion a’r maes gofal cymdeithasol.

Mae Powys wedi cymryd camau breision wrth ddatblygu chwaraeon cynhwysol ledled y sir, gan arwain at ennill gwobr arian insport i’r awdurdod lleol.

Mae ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi Llywodraeth Cymru yn annog pobl i wneud newidiadau bach i’w helpu i fyw bywyd iachach, fel bod yn fwy heini a bwyta’n iach.

Eglura Jane Jones, Arweinydd Tîm Therapi Galwedigaethol o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod symud mwy a chadw’n heini yn dda i’n hiechyd corfforol. Mae’n bwysig cadw’n cymalau a’n cyhyrau i symud, ac mae ganddon ni ystod dda o glybiau a gweithgareddau ym Mhowys sy’n darparu amgylchedd diogel a chefnogol.”

 

Saethyddiaeth

Awydd canfod eich Robin Hood mewnol? Yna ewch draw i Radnor Foresters, sef clwb saethyddiaeth cynhwysol ar gyfer pobl o bob oed a gallu yng Nghanolfan Chwaraeon Llandrindod. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook Radnor Foresters neu ffoniwch 01597 824 766.

Athletau

Os mai trac a maes yw eich pethau chi, mae clybiau athletau i’w cael yn Aberhonddu a’r Drenewydd. Mae’r ddau yn glybiau cynhwysol sy’n addas i bob gallu, ond mae angen i chi fod yn naw oed neu’n hŷn i fynd i’r sesiynau yn Aberhonddu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.breconac..org.uk neu ffoniwch 01874 623 677. Ar gyfer Clwb Athletau Maldwyn, ewch i www.maldwynharriers.org.uk neu ffoniwch 01686 628 771.

Pêl-fasged

Hoffech chi saethu’r bêl drwy’r fasged? Mae dau glwb pêl-fasged ym Mhowys. Clwb pêl-fasged cadair olwyn yn Aberhonddu yw Mid Wales Meteors, ac mae ganddyn nhw hwb hyfforddi yn y Drenewydd hefyd. Mae clwb pêl-fasged Olympaidd Arbennig yn Aberhonddu hefyd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Gallwch ddod o hyd i’r Mid Wales Meteors ar Facebook neu anfonwch e-bost at midwalesmeteors@gmail.com. Ar gyfer y sesiynau Olympaidd Arbennig, ffoniwch Canolfan Hamdden Aberhonddu drwy 01874 623 677 neu chwiliwch am Brecon Integrated Sports ar Facebook.

Boccia

Mae boccia yn gamp wych i ddechreuwyr gan fod y rheolau’n syml. Camp darged yw hi, sy’n cael ei chwarae dan do gyda pheli lledr meddal.  Mae Clwb Chwaraeon N-Able yn cynnal sesiynau i bobl hŷn yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn. Cysylltwch â Steve Cox ar 01686 430620 i gael rhagor o wybodaeth.

Bowls

Mae Bowls yn gamp lle mae modd i bobl ag anabledd chwarae a chystadlu gyda neu yn erbyn bowlwyr sydd heb anabledd. Mae Clwb Bowlio Talgarth yn cynnal sesiynau cynhwysol i bobl o bob oedran a gallu. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Audrey Micklewright drwy 01874 711 458 neu anfonwch e-bost at Audrey.micklewright@gmail.com. Fel arall, mae Cymdeithas Bowls Dan Do Maesyfed yn cynnig sesiynau penodol i bobl ag anableddau. Gallwch ddysgu mwy drwy ffonio 01597 825 014 neu ribasecretary@gmail.com.

Seiclo

Hoff o hwyl ar ddwy olwyn? Mae Clwb Seiclo Hafren yn cynnig sesiynau cynhwysol i blant ac oedolion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy www.hafren.cc neu anfonwch e-bost at juniors@hafren.cc

Gyrru Car a Cheffyl

Yn wir, mae hyd yn oed y gamp a wnaed yn boblogaidd gan y Tywysog Phillip ar gael ym Mhowys. Mae Eppynt Carriage Club yn cynnal sesiynau cynhwysol i bobl o bob oed, ac mae’n gamp wych ar gyfer y teulu cyfan. Ewch i www.eppyntcarriageclub.weebly.co.uk neu cysylltwch â Steve Price drwy 07816 183 430. Wel, os ydy hi’n ddigon da i’r teulu brenhinol...

Pêl-droed

Hoff o bêl-droed?  Mae Cwm Wanderers yn Ystradgynlais yn cynnig pêl-droed cynhwysol ynghyd â phêl-droed anabledd yn unig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy chwilio am Cwm Wanderers ar Facebook neu drwy anfon e-bost at cwmwanderersasd@gmail.com. Hefyd, mae Clwb Pêl-droed Ieuenctid Llanfair-ym-Muallt yn cynnig pêl-droed cynhwysol, ac maen nhw hefyd ar gael ar Facebook.

Golff

Os hoffech chi fynd i’r swing o bethau, mae dau glwb sy’n cynnig golff cynhwysol ym Mhowys. Mae Clwb Golff Lakeside, sydd â maes ymarfer hefyd, yn addas i bob oed ac mae modd cysylltu â nhw drwy 01686 640 909. Mae Dreigiau Maldwyn yn y Drenewydd yn cynnal sesiynau i blant. Anfonwch e-bost at admin@maldwyndragons.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Gymnasteg

Mae tri chlwb sy’n cynnig sesiynau gymnasteg cynhwysol. Yn y Drenewydd, mae Dreigiau Maldwyn ar gael i blant. Anfonwch e-bost at admin@maldwyndragons.org.uk i ddysgu mwy. Gall pobl ifanc hefyd fynd i Glwb Gymnasteg Dwyrain Maesyfed. Anfonwch e-bost at jody.owen@freedom-leisure.co.uk neu ffoniwch 01544 260 302. Yn olaf, mae Gymnasteg Gwernyfed yn ymyl Aberhonddu yn cynnal sesiynau i oedolion a phlant. Anfonwch e-bost at gwernyfedgymnastics@outlook.com neu ffoniwch 07932 808 635 i gael rhagor o wybodaeth.

Hoci

Beth am roi cynnig ar hoci gyda chriw cyfeillgar a chymdeithasol Merched Gwernyfed, sy’n cynnig cyfleoedd i blant ac oedolion. Cysylltwch ag ysgrifennydd y clwb drwy 07968 214 769.

Marchogaeth

Mae Ysgol Farchogaeth wych Bryngwyn ar ffin Swydd Henffordd / Powys. Mae’r stablau bach a chyfeillgar, sy’n cael eu rhedeg gan deulu, yn cynnig gwersi, gwyliau a theithiau i farchogion o bob gallu. Mae sesiynau Marchogaeth i’r Anabl ar gyfer plant ac oedolion gyda hyfforddwyr cymwys a cheffylau a merlod aeddfed a thawel. Ewch i www.ridinginwales.com neu ffoniwch 01497 851 699.

Karate

Os ydych chi’n cael cic o gicio, efallai mae karate yw’r un i chi? Mae Lee Taylor Karate yn cynnal sesiynau cynhwysol i blant yn Llanandras, Llanidloes a Rhaeadr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.leetaylorkarate.co.uk neu ffoniwch Lee drwy 01544260799 neu 07976 914617

Caiacio

Os ydych chi’n hoff o chwaraeon dŵr, beth am roi cynnig ar gaiacio? Ewch i Glwb Canŵio Aberhonddu, sy’n cynnal sesiynau cynhwysol dan do yn y ganolfan hamdden leol. Cysylltwch â 01874 623 677 neu anfonwch e-bost at breconintegrsport@gmail.com i glywed sut i gymryd rhan.

Aml-gamp

Methu penderfynu ar un gamp? Peidiwch â phoeni, mae clybiau aml-gamp yn cynnig cyfle i roi cynnig ar ystod lawn o chwaraeon a gweithgareddau, fel athletau, boccia, pêl-droed a phêl-fasged. Mae dau glwb ym Mhowys – BISA yn Aberhonddu ac N-Able yn y Drenewydd – ac mae’r ddau’n agor eu drysau i blant ac oedolion. Os hoffech roi cynnig ar beth sydd gael yn Aberhonddu, cysylltwch â 01874 623 677 neu anfonwch e-bost at breconintegrsport@gmail.com. Ar gyfer y Drenewydd, cysylltwch â Steve Cox drwy 01686 628 771.

Jiwdo

Am anelu at y wregys ddu? Yn Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt, mae Clwb Jiwdo Irfon yn croesawu plant o bob gallu. Ffoniwch Richard Jones drwy 07817 008743 neu anfonwch e-bost at irfonjudoclub@hotmail.com

Rygbi

Os mai rygbi yw eich camp chi, yna ewch i Faes Rygbi Llanidloes sy’n darparu ar gyfer pobl o bob gallu dros chwech oed. Anfonwch e-bost at dhiggs@wru.wales i glywed mwy.

Hwylio

Breuddwydio am ddŵr agored? Mae yna gyfleoedd hwylio yn aros amdanoch chi yng Nghlywedog a Llan-gors, lle mae dwy Ganolfan RYA Sailability. Mae Sailability’n cynnig hwylio ar eich cyflymder eich hunan, wedi’i addasu ar eich cyfer chi gyda hyfforddwyr cymwys. Mae angen bod yn wyth oed neu’n hŷn yng Nghlywedog – ffoniwch Keith Rollinson drwy 01686 640 305 neu anfonwch e-bost at keith@rollinson.me. Ar gyfer Llan-gors, anfonwch e-bost at info@llangorsesailing.com

Nofio

Mae nofio’n wych i ymarfer y corff cyfan. Mae pum clwb ym Mhowys yn cynnig sesiynau i bobl ag anableddau. Mae Clwb Nofio Aberhonddu, Clwb Nofio’r Drenewydd, a Chlwb Nofio’r Trallwng yn cynnig sesiynau cynhwysol. Ffoniwch y pyllau i gael rhagor o wybodaeth. Hefyd, mae Gwylanod Glantawe yng Nghanolfan Chwaraeon Ystradgynlais a Dwrgwn y Drenewydd yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn yn cynnig cyfleoedd i bobl ag anableddau yn benodol. Ar gyfer y Gwylanod, cysylltwch â’r ganolfan hamdden, ac ar gyfer y Dwrgwn, ffoniwch Colin Rees drwy 01686 624 364.

Tennis

Mae tennis yn gamp y gallwch ei haddasu i ystod eang o anableddau. Os hoffech roi cynnig arni, mae Tennis y Drenewydd yn cynnig sesiynau cynhwysol i oedolion a phlant. Ewch i www.newtowntennis.co.uk neu anfonwch e-bost at info@newtowntennis.co.uk. Fel arall, mae Totally Tennis ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon Crughywel. Ffoniwch Chris Hill drwy 07713 152 658.

Triathlon

Mae’r triathlon wedi gweld cynnydd enfawr mewn poblogrwydd yn y blynyddoedd diwethaf. Os yw nofio, rhedeg a seiclo’n swnio’n dda i chi, rhowch gynnig ar Glwb Triathlon Aberhonddu. Cysylltwch â Chanolfan Hamdden Aberhonddu drwy 01874 623 677. Yn debyg i Aberhonddu, dim ond i oedolion mae Clwb Triathlon Cerist ym Machynlleth yn darparu ar eu cyfer. Ewch i www.ceristtriathlon.org.uk neu ffoniwch 01654 703 300.

*Rydyn ni’n ceisio cadw’r holl wybodaeth mor gyfredol â phosib. Mae’n bosib y bydd rhai clybiau ar gau dros dro oherwydd Covid-19.

 

Rhannu:
Cyswllt: