Neidio i'r prif gynnwy

Cofnod Gofal Nyrsio Cymru - Llandrindod 'Yn Fyw' - 1af Tachwedd 2021

Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru yn trawsnewid dogfennau nyrsio trwy ddigideiddio ei ffurflenni, yn caniatáu i nyrsys ddefnyddio’r llechen glyfar ddiweddaraf yn hytrach na ffurflenni papur.

Rydym nawr Yn Fyw gyda’n Cofnod Gofal Nyrsio Cymreig ar Ward Claerwen yn Llandrindod ac ar ei ffordd i gyrraedd ein nod o 6 allan o 8 ysbyty yn fyw ac yn defnyddio CGNC cyn y Nadolig. Mae’r ymatebion wedi bod yn wych, gyda sawl nyrs yn gadarnhaol am ba mor hawdd yw defnyddio CGNC a’r buddion o’i ddefnydd yn eu swyddi.

Dywedodd Lesly Sanders, Rheolwr Gwasanaethau Cymunedol “Mae hwn yn gynnydd gwych yn niogelwch ein cleifion ac am wella ansawdd ein cofnodion nyrsio”. Rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o’r trawsnewid digidol yma ym Mhowys”.

Rydym yn edrych ymlaen at ymweld â’r Trallwng a Machynlleth yn y flwyddyn newydd, a fydd yn cwblhau ein proses cyflwyno CGNC ledled Powys!

 

Cyhoeddwyd: 05/11/21

Rhannu:
Cyswllt: