Neidio i'r prif gynnwy

Cogyddion ysbytai yn dangos eu doniau ym mrwydr y pwdinau

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dathlu’r rhai sy’n creu’r bwyd blasus i’w cleifion a’i staff.

Gosodwyd yr her i dimau o gogyddion o bob cwr o Bowys gael eu beirniadu yng nghystadleuaeth Pwdin Jiwbilî Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Daeth timau arlwyo o ysbyty’r Trallwng, Machynlleth, Bronllys, Aberhonddu ac Ystradgynlais at ei gilydd i ddathlu'r Diwrnod Cenedlaethol Ystadau a Chyfleusterau Gofal Iechyd cyntaf erioed ar 15 Mehefin a dangos eu doniau anhygoel.

Meddai Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Mae bwyd blasus yn rhan allweddol o les cleifion, ac mae’r timau arlwyo o bob rhan o’r sir yn sicr wedi profi eu gallu heddiw gyda sawl pwdin blasus iawn.

"Gwnaeth y cogyddion eu gorau glas yn y gystadleuaeth hon, ond yn bwysicach na hynny y dangosodd ansawdd uchel iawn y cynnyrch a'r bwyd sy'n cael ei weini i'r cleifion rydyn yn gofalu amdanynt.

"Y timau o Aberhonddu a Bronllys a oedd yn fuddugol mewn cystadleuaeth hynod o anodd.

"Ond rydw i hyd yn oed yn fwy balch y bydd y Pwdin Jiwbilî yn cael ei roi ar ein bwydlenni i gleifion drwy gydol mis Awst."

Meddai Andrew Cresswell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cynnal y bwrdd iechyd: “Mae’r hyn mae ein timau yn gwneud yn y gegin yn cysylltu’n uniongyrchol gyda chanlyniadau cadarnhaol i gleifion.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein prydau bwyd mor ffres a maethlon â phosibl, ac rydyn ni’n ymfalchïo mewn coginio'r mwyafrif helaeth o'n bwydlenni o'r newydd bob dydd.

"Gan weithio gyda'n harbenigwyr deieteg, mae ein timau arlwyo yn sicrhau bod ein cleifion yn cael eu hydradu'n ddigonol ac yn cael y maeth sydd ei angen arnyn nhw i gefnogi eu gofal a'u hadferiad. Yn syml, bwyd yw moddion.”

 

 

Rhyddhawyd: 21/06/2022

Rhannu:
Cyswllt: