Mae cymunedau Powys yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o'r Coronafeirws ac i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol er mwyn arafu lledaeniad y feirws.
Mae cynnydd sydyn diweddar mewn achosion wedi'u cysylltu â chyswllt cymdeithasol yn nhrefi Powys, gan gynnwys Llanfair-ym-Muallt, lle cafwyd mwy o gyswllt cymdeithasol gan olygu bod nifer o drigolion wedi gorfod hunan-ynysu.
"Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion yng nghymunedau Powys sy'n ymddangos i fod yn gysylltiedig â mwy o gyswllt cymdeithasol. Mae'r achosion hyn yn cael effaith sylweddol ar y gwasanaeth iechyd, ein heconomi a'n haelwydydd gyda llawer o unigolion yn gorfod hunan-ynysu oherwydd eu bod wedi'u cadarnhau fel cysylltiadau. Mae'n hanfodol i bob yr un ohonom wneud popeth o fewn ein gallu i atal y feirws rhag lledaenu ym Mhowys. Mae cyfyngu cyswllt ag eraill wrth gadw pellter cymdeithasol yn fesur allweddol ynghyd â gwisgo gorchudd wyneb a golchi dwylo'n rheolaidd," meddai Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
"Mae'n bwysig ein bod yn cofio bod Coronafeirws yn fygythiad gwirioneddol i iechyd y cyhoedd, yn enwedig gydag amrywiolyn newydd sy'n lledaenu'n gyflymach. Y ffordd orau o atal y gadwyn heintio yw dod i gysylltiad â llai o bobl ac i gadw pellter cymdeithasol. Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i atal cynnydd pellach mewn achosion o'r coronafeirws."
Dywedodd y Cyngh. Graham Breeze, Aelod Cabinet ar fateroin Cynllunio Brys: "Mae bygythiad y Coronafeirws wedi dod i'r wyneb yn ein cymunedau ac rwy'n annog pawb i gadw pellter cymdeithasol, golchi/diheintio dwylo'n rheolaidd ac yn drylwyr ac i wisgo gorchudd wyneb. Pan fyddwch yn ymweld â siopau hanfodol ac wrthi'n cyflawni materion busnes angenrheidiol eraill, dilynwch ganllawiau Covid perthnasol gan weithredwyr unigol. Rwy'n annog pawb i gadw'n ddiogel."
Prif symptomau coronafeirws yw:
Mae gan y rhan fwyaf o bobl sydd â coronafeirws o leiaf un o'r symptomau hyn.
Os oes gennych unrhyw symptomau, gwnewch yn siwr eich bod chi ac aelodau eich aelwyd agos yn hunanynysu ar unwaith. Ewch i https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu ffoniwch 119 i drefnu prawf.
https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/
Gall pob un ohonom helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu:
"Mae cyfrifoldeb personol ar bob yr un ohonom i reoli'r feirws rhag lledaenu. Gall y sefyllfa newid yn gyflym iawn. Drwy ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, gallwn helpu i gadw Powys yn ddiogel."
Mae ein tîm Diogelu Olrhain Profi yma ym Mhowys yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod achosion positif yn cael eu holrhain, a bod cysylltiadau symptomatig yn cael cynnig prawf. Os ydych yn cael eich dynodi fel cyswllt cadarnhaol, bydd ein tîm olrhain cysylltiadau Powys yn eich ffonio ar y rhif 02921 961133.
Os bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn eich ffonio, gwnewch eich gorau glas i'w helpu gyda'u gwaith hanfodol i Gadw Powys yn Ddiogel.
Os cewch eich galw gan olrhain cyswllt, helpwch nhw yn eu gwaith hanfodol i Gadw Powys yn Ddiogel.