Neidio i'r prif gynnwy

Coronafeirws yn cynyddu yn Powys

Mae cymunedau Powys yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o'r Coronafeirws ac i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol er mwyn arafu lledaeniad y feirws.

Mae cynnydd sydyn diweddar mewn achosion wedi'u cysylltu â chyswllt cymdeithasol yn nhrefi Powys, gan gynnwys Llanfair-ym-Muallt, lle cafwyd mwy o gyswllt cymdeithasol gan olygu bod nifer o drigolion wedi gorfod hunan-ynysu.

"Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion yng nghymunedau Powys sy'n  ymddangos i fod yn gysylltiedig â mwy o gyswllt cymdeithasol.  Mae'r achosion hyn yn cael effaith sylweddol ar y gwasanaeth iechyd, ein heconomi a'n haelwydydd gyda llawer o unigolion yn gorfod hunan-ynysu oherwydd eu bod wedi'u cadarnhau fel cysylltiadau.  Mae'n hanfodol i bob yr un ohonom wneud popeth o fewn ein gallu i atal y feirws rhag lledaenu ym Mhowys.  Mae cyfyngu cyswllt ag eraill wrth gadw pellter cymdeithasol yn fesur allweddol ynghyd â gwisgo gorchudd wyneb a golchi dwylo'n rheolaidd," meddai Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

"Mae'n bwysig ein bod yn cofio bod Coronafeirws yn fygythiad gwirioneddol i iechyd y cyhoedd, yn enwedig gydag amrywiolyn newydd sy'n lledaenu'n gyflymach.  Y ffordd orau o atal y gadwyn heintio yw dod i gysylltiad â llai o bobl ac i gadw pellter cymdeithasol.  Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i atal cynnydd pellach mewn achosion o'r coronafeirws."

Dywedodd y Cyngh. Graham Breeze, Aelod Cabinet ar fateroin Cynllunio Brys: "Mae bygythiad y Coronafeirws wedi dod i'r wyneb yn ein cymunedau ac rwy'n annog pawb i gadw pellter cymdeithasol, golchi/diheintio dwylo'n rheolaidd ac yn drylwyr ac i wisgo gorchudd wyneb.   Pan fyddwch yn ymweld â siopau hanfodol ac wrthi'n cyflawni materion busnes angenrheidiol eraill, dilynwch ganllawiau Covid perthnasol gan weithredwyr unigol.  Rwy'n annog pawb i gadw'n ddiogel."

Prif symptomau coronafeirws yw:

  • tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu'ch cefn yn teimlo'n boeth i'w gyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
  • peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 neu fwy o byliau peswch mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer)
  • methu arogli neu flasu neu golli eich synnwyr o arogl neu flas: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi nad ydych yn gallu arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i'r arfer

Mae gan y rhan fwyaf o bobl sydd â coronafeirws o leiaf un o'r symptomau hyn.

Os oes gennych unrhyw symptomau, gwnewch yn siwr eich bod chi ac aelodau eich aelwyd agos yn hunanynysu ar unwaith.  Ewch i https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu ffoniwch 119 i drefnu prawf.

https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/

Gall pob un ohonom helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu:

  • Aros gartref
  • Golchi eich dwylo'n rheolaidd
  • Cadw pellter cymdeithasol o bawb arall
  • Peidio cwrdd ag unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau, lleoedd cyhoeddus dan do ac ar gludiant cyhoeddus oni bai bod esgus rhesymol am beidio gwneud hynny
  • gweithio o gartref os gallwch

"Mae cyfrifoldeb personol ar bob yr un ohonom i reoli'r feirws rhag lledaenu.  Gall y sefyllfa newid yn gyflym iawn. Drwy ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, gallwn helpu i gadw Powys yn ddiogel."

Mae ein tîm Diogelu Olrhain Profi yma ym Mhowys yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod achosion positif yn cael eu holrhain, a bod cysylltiadau symptomatig yn cael cynnig prawf.  Os ydych yn cael eich dynodi fel cyswllt cadarnhaol, bydd ein tîm olrhain cysylltiadau Powys yn eich ffonio ar y rhif 02921 961133.

Os bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn eich ffonio, gwnewch eich gorau glas i'w helpu gyda'u gwaith hanfodol i Gadw Powys yn Ddiogel.

Os cewch eich galw gan olrhain cyswllt, helpwch nhw yn eu gwaith hanfodol i Gadw Powys yn Ddiogel.

Rhannu:
Cyswllt: