Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno profion Llif Unffordd i gryfhau'r ddarpariaeth profion coronafeirws ym Mhowys 

Mae'r gwaith o nodi a phrofi pobl a allai fod yn lledaenu'r coronafeirws heb yn wybod iddynt wedi cymryd cam sylweddol ymlaen gyda dosbarthiad dyfeisiau llif unffordd i weithleoedd a lleoliadau caeedig ledled Powys.

Defnyddir profion llif unffordd i ddarganfod pobl â COVID-19 nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion na symptomau o gario neu drosglwyddo'r feirws.

Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mhowys: "Rydym yn gwybod nad oes unrhyw symptomau gan tua 1 o bob 3 unigolyn sydd â COVID-19, ac os na fyddant yn cael eu profi, byddant yn parhau i ledaenu'r feirws ledled ein cymunedau, ac o bosibl i'r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed.

"Gall profi staff asymptomatig sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed, yn enwedig mewn lleoliadau caeedig, nodi unigolion a allai fod yn risg i bobl eraill fel arall, a hynny cyn gynted â phosib.

"Mae gallu profi pobl heb symptomau yn arf pwysig yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, a gall pob achos cadarnhaol rydyn ni'n ei nodi, helpu i atal llawer mwy o heintiau. Er bod nifer yr achosion cadarnhaol wedi bod yn gostwng yn raddol, byddwn, heb os, yn gweld cynnydd mewn achosion wrth i brofion gynyddu drwy ddefnyddio dyfeisiau profi llif unffordd.

"Mae'r dyfeisiau yn hawdd i'w defnyddio ac yn rhoi canlyniadau ymhen 30 munud. Maen nhw'n hawdd eu dehongli a gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o leoliadau fel ysgolion, gweithleoedd, ysbytai a chartrefi gofal.

"Bydd rheoli lledaeniad COVID-19 yn parhau i fod yn her fawr dros y misoedd nesaf sy'n dod, ond y gobaith yw y bydd dosbarthu a defnyddio dyfeisiau llif unffordd yn chwarae rhan sylweddol wrth leihau lledaeniad y feirws.

"Mae'r gyfradd heintio yn parhau i fod yn uchel ym Mhowys a ledled Cymru, felly mae'n fwy hanfodol nag erioed, os ydych chi'n teimlo'n sâl, yn dangos unrhyw arwyddion neu symptomau’r coronafeirws, mae'n rhaid i chi hunanynysu ar unwaith, yna archebu prawf cyn gynted â phosibl.  Ymbellhau cymdeithasol a hylendid personol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o hyd o osgoi dal y feirws, cofiwch: dwylo, wyneb, pellter."

Cofiwch, mae Cymru gyfan dan glo (lefel rhybudd 4) lle mae'n rhaid i bobl ddilyn canllawiau cenedlaethol ac:

  • aros gartref
  • peidio â chwrdd â neb ond y bobl rydych chi'n byw gyda nhw
  • gweithio gartref os medrwch
  • gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen
  • golchi eich dwylo'n rheolaidd
  • arhoswch 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw

Dylai pawb ddilyn y canllawiau hyn p'un a ydynt wedi cael brechlyn COVID-19 ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i bob un ohonom ei wneud ar Lefel Rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.

Gellir archebu apwyntiadau yng Nghrucywel, Rhaeadr Gwy, y Drenewydd ac Aberhonddu drwy borth archebu cenedlaethol Llywodraeth y DU, naill ai ar-lein yn www.gov.uk/get-coronavirus-test, dros y ffôn ar 119, neu 18001 119 ar gyfer pobl ag anawsterau clyw neu leferydd.  Dyma'r ffordd o ofyn am becyn profi cartref hefyd.

Gall preswylwyr yn Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng a'r cyffiniau wneud apwyntiad yn yr uned brofi leol drwy ffonio 01874 612228 neu drwy e-bostio powys.testing@wales.nhs.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/

Rhannu:
Cyswllt: