Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniwch o Flaen Llaw ar Gyfer Eich Presgripsiwn Rheolaidd Dros Gyfnod yr Ŵyl

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio o flaen llaw ac yn archebu eich presgripsiwn rheolaidd mewn digon o amser. Dyma’r neges gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys wrth i ni nesáu at y Nadolig.

Gyda llawer o fferyllfeydd ar gau am bedwar diwrnod dros y Nadolig, mae’r Prif Fferyllydd Jacqui Seaton yn awgrymu - fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru Helpwch Ni i’ch Helpu Chi - i wirio bod ganddynt ddigon o feddyginiaeth presgripsiwn ar gyfer yr ŵyl:

"Mae'n bwysig bod pobl yn cofio y bydd penwythnos hir o bedwar diwrnod rhwng 25 - 29 Rhagfyr eleni a phenwythnos hir arall rhwng 1-3 Ionawr.

“Os oes gennych bresgripsiynau rheolaidd, helpwch ni i'ch helpu chi, a gwiriwch na fyddwch yn rhedeg allan dros gyfnod y Nadolig. Gadewch saith diwrnod rhwng archebu a chasglu. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod y meddyginiaethau gennym ac yn rhoi amser i ni eu cael yn barod yn ddiogel.

Wrth i'r GIG wynebu ei aeaf prysuraf, mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn awyddus i atgoffa pobl y gall fferyllwyr helpu gyda llawer o fân bryderon iechyd ac maent ar gael i drafod eich symptomau.

A dweud y gwir mae dros 60,000 o bobl yn cael cymorth gan fferyllfa gymunedol bob dydd yng Nghymru.

Meddai Ms Seaton: “Mae llawer o fferyllfeydd yn cynnig gwasanaeth anhwylderau cyffredin. Mae rhai hefyd yn gallu darparu rhai meddyginiaethau am ddim ar gyfer ystod o gyflyrau megis llwnc tost, diffyg traul, rhwymedd, dolur rhydd a wlserau yn y geg, heb i chi orfod gweld meddyg.

“Gallwch hefyd wirio’ch symptomau ar-lein ar wefan GIG 111 Cymru - mae ar gael i bawb, yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn gyfleus. Dyma'ch man cyntaf os ydych chi'n teimlo’n anhwylus ond nad ydych chi'n siŵr beth sydd o’i le. Mae gan y wefan llawer o gyngor ar gyflyrau cyffredin.

Mae Dominic Timmins wedi bod yn fferyllydd ers 41 mlynedd ac mae bellach yn gweithio yn Boots yn y Trallwng. Dywed:

"Mae hefyd yn syniad da sicrhau bod eich meddyginiaeth a'ch pecyn cymorth cyntaf yn gyfredol y gaeaf hwn gan y gallech reoli mân gyflyrau heb hyd yn oed adael eich cartref."

Os oes angen fferyllydd arnoch ar frys dros y Nadolig, bydd nifer o fferyllfeydd ar agor i'ch helpu. Dewch o hyd i oriau agor eich fferyllfa leol dros yr Ŵyl yma.

Rhannu:
Cyswllt: