|
Ydych chi eisiau gwybod mwy am gynlluniau ar gyfer yr Hyb Iechyd a Lles yn y Drenewydd neu gael gwybod am ddatblygiadau ysbytai ar draws y ffin yn yr Amwythig a Telford? Bydd tîm Rhaglen Lles Gogledd Powys yn Hafan yr Afon ar Stryd Gefn yn y Drenewydd o 11am - 1pm ddydd Llun Mehefin 22ain ynghyd â chydweithwyr o Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty’r Amwythig a Telford. Gallwch ddysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer hyb y Drenewydd yn Lles Gogledd Powys | Dweud Eich Dweud Powys ond i grynhoi, mae'r tîm yn edrych i ddarparu, o fewn yr hyb, cartref newydd i'r llyfrgell gyhoeddus, ehangu gwasanaeth Deintyddol Cymunedol y GIG, canolfannau newydd ar gyfer y Ganolfan Deulu Integredig, gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Plant y GIG, canolfan hyfforddi yn ogystal â mannau lles. O ran datblygiadau yn Swydd Amwythig, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar eu gwefan yn Rhaglen Trawsnewid Ysbytai. Beth am ddod draw am sgwrs i gael gwybod mwy?
Cyhoeddwyd: 18/06/2026 |