Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu blwyddyn ers sefydlu Rhwydwaith Trawma De Cymru

Rhwydwaith Trawma De Cymru yw'r rhwydwaith trawma sy'n cwmpasu De a Gorllewin Powys. Mae trigolion Dwyrain a Gogledd Powys sy'n defnyddio gwasanaethau ysbytai acíwt yn Lloegr yn derbyn eu gofal trawma drwy Rwydwaith Trawma Gogledd Orllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Cymru (mae unedau trawma yn cynnwys Ysbyty Brenhinol Amwythig ac Ysbyty Maelor Wrecsam) a Rhwydwaith Trawma Birmingham, Black Country, Henffordd a Chaerwrangon (mae unedau trawma yn cynnwys Ysbyty Henffordd).

Ym mis Medi 2020, sefydlwyd Rhwydwaith Trawma De Cymru, a oedd yn gam mawr ymlaen yn y broses o ddarparu gofal brys ar draws De Cymru, Gorllewin Cymru a De Powys. Mae’r rhwydwaith, sy’n cynnwys ysbytai, gwasanaethau ymateb brys a gwasanaethau adsefydlu, yn sicrhau bod cleifion sydd ag anafiadau sy’n bygwth bywyd ac a allai newid bywyd yn cael y driniaeth a’r gofal gorau posibl.

Trawma mawr, sy’n cyfeirio at anafiadau lluosog a difrifol, yw prif achos marwolaeth pobl o dan 45 oed ac mae’n un o achosion arwyddocaol anabledd ac iechyd gwael.

Y Ganolfan Trawma Mawr ar gyfer Oedolion a Phlant yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yw’r unig ysbyty niwrolawfeddygaeth arbenigol yng Nghymru ac mae’n gartref i Ysbyty Plant Cymru. Gan fod trawma mawr yn gymharol anghyffredin ac yn gymhleth i’w reoli, mae’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Ganolfan Trawma Mawr yn hynod arbenigol ac ar gael bob awr o’r dydd. Mae’r ganolfan yn cefnogi ac yn cydweithio ag ysbytai ar draws y rhwydwaith.

Yn ei flwyddyn gyntaf, gwnaeth y Ganolfan Trawma Mawr drin bron i 1,300 o gleifion ag anafiadau a oedd yn bygwth bywyd neu a allai newid bywyd, o ganlyniad i wrthdrawiadau rhwng cerbydau, cwympiadau, anafiadau chwaraeon ac achosion eraill.

Dywedodd Dindi Gill, Cyfarwyddwr Clinigol y rhwydwaith: “Mae Rhwydwaith Trawma De Cymru wedi bod yn achubiaeth hanfodol ers ei sefydlu i gleifion sy’n dioddef trawma mawr. Mae’r gofal amserol ac arbenigol a gynigir gan y rhwydwaith yn rhoi’r cyfle gorau posibl i gleifion adfer. Diolch i frwdfrydedd, penderfyniad a phartneriaeth ragorol rhwng yr holl dimau sy’n rhan ohono, rydym yn darparu gwasanaeth gwbl hanfodol i bobl sydd mewn angen critigol yma yng Nghymru.”

Yn rhan o weithredu Rhwydwaith Trawma De Cymru, mae nifer o ysbytai wedi cynyddu swyddogaethau, gan gynnwys Ysbyty Treforys yn Abertawe sydd bellach yn Uned Drawma sy’n darparu gwasanaethau arbenigol.

Yn ogystal, cefnogir y rhwydwaith gan Unedau Trawma, Cyfleusterau Trawma Gwledig ac Ysbytai Brys Lleol. Cafodd dros 200 o gleifion eu dychwelyd i’w Bwrdd Iechyd lleol i gael gofal parhaus yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Cafodd y rhwydwaith ei sefydlu gan waith o dan arweiniad Cydweithfa Iechyd GIG Cymru, ar y cyd â Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, yn ogystal â Chynghorau Iechyd y Trydydd Sector a Chynghorau Iechyd Cymunedol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnal y rhwydwaith cyflenwi gweithredol, sy’n goruchwylio’r gwaith o weithredu Rhwydwaith Trawma De Cymru.

Rhannu:
Cyswllt: