Neidio i'r prif gynnwy

Ddathlu cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar #DdiwrnodyGPPI ar y 14eg o Hydref

Ar y 14eg Hydref, bydd y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn dathlu’r 6ed Diwrnod y GPPI. Fel Cyfarwyddwr Gweithredol dros Therapïau a Gwyddorau Iechyd, rwy'n annog pob cydweithiwr i ddathlu ar y diwrnod ei hun a thrwy gydol yr wythnos.

Fel y trydydd gweithlu clinigol mwyaf ym maes iechyd a gofal, mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (GPPI) yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi ein huchelgeisiau lleol ar gyfer Powys Iach a Gofalgar ac yn genedlaethol i gyflawni Cymru Iachach. Mae Diwrnod y GPPI yn achlysur blynyddol i ddod ynghyd, a chydnabod eu cyfraniad. Mae'n cynnig llwyfan i dynnu sylw at yr effaith anhygoel y mae GPPI yn eu cael ar ddarpariaeth gofal.

Er enghraifft, mae Diwrnod y GPPI yn rhoi cyfle i:

  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o rôl hanfodol pob un o'r Proffesiynau Perthynol i Iechyd unigol.
  • Tynnu sylw at gyflawniadau gwasanaethau lleol a'u dylanwad dwfn ar ofal cleifion ac iechyd y cyhoedd.

Arddangos ein gwaith i'r rhai sy'n ystyried gyrfa fel gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd neu ddenu eraill nad ydynt yn ymwybodol o'r cyfleoedd gwych a'r rolau unigryw hyn.

Hoffaf ddiolch i bob GPPI am eu cyfraniad enfawr at iechyd a lles pobl Powys a chydnabod amrywiaeth enfawr eich rolau.

Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Rhyddhawyd: 13/12/2023

Rhannu:
Cyswllt: