Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch eich hun a phobol eraill y gaeaf hwn

Wrth I ni symyd mewn I fisoedd y gaeaf, rydym yn gweld cynnydd mewn afiechydon anadal, gan gynnwys annwyd, ffliw ac feirysau gaeaf eraill, yn ogystal ag achosion o ddolur rhydd a chwydu yn ein cymuned.

I helpu I ddiogelu ein cleifion a’n hymwelwyr, rydym yn gofyn I bawb feddwl yn ofalus cyn ymweld a’n hysbytai. Mae llawer o’n cleifion yn agored I niwed ac yn fwy tebygol o brofi cymhlethodau difrifol o ganlyniad I’r heintiau hyn.

Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi I weld eich anwyliaid, ond drwy aros gartref os ydych yn teimlo’n sấl, rydych yn helpu I leihau lladaeniad heintiau ac I ddiogelu’r rhai sydd fwyaf mewn perygl.

Peidiwch ag ymwled os:

  • Rydych yn teimlo’n gyda symptomau megis peswch, dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, dolur rhydd neu chwydu.
  • Rydych wedi bod yn sấl yn ystod y 48 awr ddiwethaf- hyd yn oed os ydych yn teimlo’n well erbyn hyn.

Diogelwch eich hun a phobol eraill y gaeaf hwn

Os ydych yn gymwys I gael y brechlyn ffliw, COVID-19 neur feirws Syncytial Anadlol (RSV) y gaeaf hwn, gwnewch yn siwr eich bod yn mynychu’r apwyntiad os gwelwch yn dda. Mae brechu yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddiogelu eich hun a’r rhai o’ch cwmpas o’r salwch difrifol. Gellir dod o hyd I rhagor o wybodaeth:

Drwy ddilyn y canllawiau hyn, rydych yn ein helpu i: 

  • Gadw ein cleifion yn ddiogel rhag heintiau
  • Leihau lledaeniad feirysau’r gaeaf
  • Sicrhau y gall ein hysbytai barhau I ddarparu gofal diogel o safon uchel.

Diolch i chi am helpu i ddiogelu ein cleifion a’n cymuned y gaeaf hwn.