Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad am gynnal profion coronafeirws yn y Trallwng

Mae bron i 500 o bobl wedi cael profion coronafeirws mewn canolfan symudol yn y Trallwng dros y pedwar diwrnod diwethaf.

Cafodd y ganolfan, wedi’i lleoli yn Neuadd Maldwyn, y Trallwng, ei gydlynu gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar ôl i nifer o achosion gael eu cadarnhau yn yr ardal.

Mae'r rhan fwyaf o'r profion wedi dod nôl yn negyddol ond cafwyd 26 o ganlyniadau positif hyd yma.

Dylai unrhyw un sy'n profi'n bositif hunanynysu am o leiaf 10 diwrnod.

Hefyd, mae swyddogion olrhain cysylltiadau o’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu ar waith, gan olrhain cysylltiadau pobl sy'n profi'n bositif er mwyn atal lledaeniad y coronafeirws.

Yn ogystal â bod yn agored i bobl sy'n byw yn ardal y Trallwng, cefnogwyd y rhaglen brofi gan CDT Sidoli Ltd yn y Trallwng lle mae nifer o staff wedi profi'n bositif.

Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r tîm yn CDT Sidoli Ltd, ac i bobl y Trallwng, am eu hymateb cyflym a chefnogol i'r cyfle hwn i gael eu profi.

"Pan fydd achosion newydd yn cael eu  dynodi, mae ymateb cyflym wedi’i gydlynu yn ein helpu i atal lledaeniad y coronafeirws ac i gadw Powys yn ddiogel.

"Yn seiliedig ar ein profion hyd yma, nid ydym yn gweld tystiolaeth bod yr haint yn cael ei drosglwyddo’n eang yn y gymuned yn ardal y Trallwng."

Dywedodd y Cynghorydd James Evans, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Datblygu Economaidd, Tai a Rheoleiddio, Cyngor Sir Powys: "Rydym yn gweithio gyda chwmnïau lleol i atgoffa eu staff pa mor bwysig yw hi i gadw pellter cymdeithasol, i olchi dwylo'n rheolaidd ac osgoi rhannu ceir gyda phobl o gartrefi eraill.  Mae'n bwysig iawn fod pawb yn cynnal y safonau hyn y tu allan i'r gweithle mewn sefyllfaoedd cymdeithasol hefyd."

Dywedodd Phil Cummings, Cyfarwyddwr Rheoli CDT Sidoli: “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd lleol a’r cyngor sir i helpu i gadw ein staff a’n cymunedau’n lleol yn ddiogel, gan gynnwys gofyn i’n 250 o staff i gael profion gwirfoddol er nad oedd y mwyafrif helaeth yn dangos unrhyw symptomau o’r coronafeirws.

"Mae gennym eisoes systemau a pholisïau cryf ar waith yn ein ffatri a chafodd y rhain eu gwirio a'u cymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yr wythnos ddiwethaf.  Mae'r achosion diweddar wedi rhoi cyfle i ni adolygu a chryfhau'r rhain ymhellach gan roi’r cyfle i ni ddysgu rhagor ac i’w rhannu â gweithleoedd eraill yn y sir.

"Gyda’r coronafeirws yn dal i gylchredeg ledled y DU, mae gan bob un ohonom rôl hanfodol i'w chwarae i atal lledaeniad."

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynghori ei fod yn annhebygol iawn y gallwch ddal coronafeirws o fwyd.  Mae COVID-19 yn salwch anadlol.  Nid yw'n hysbys ei fod yn cael ei drosglwyddo drwy ddod i gysylltiad â bwyd neu ddeunydd pacio bwyd.

"Mae’r coronafeirws yn dal i fod yn fygythiad gwirioneddol i iechyd y cyhoedd.  Gall pob un ohonom helpu i Gadw Powys yn Ddiogel," ychwanegodd Stuart Bourne.

"Dylech bob amser gadw pellter cymdeithasol.  Golchwch eich dwylo'n rheolaidd. Os byddwch yn cwrdd ag aelwyd arall, y tu allan i'ch cartref estynedig, arhoswch yn yr awyr agored.  Gweithiwch gartref os yw’n bosibl.

"Arhoswch gartref ac ewch am brawf os oes gennych chi neu unrhyw un arall yn eich cartref estynedig symptomau."

Rhannu:
Cyswllt: