Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Gwasanaeth GCTMB - Briffio 9

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:

Annwyl Randdeiliaid,

Yn dilyn fy nghyfathrebiad diwethaf ym mis Mehefin ar ddiwedd Cam 1 yr ymgysylltiad cyhoeddus ar Adolygiad Gwasanaeth Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (GCTMB), roeddwn i eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd y mae fy nhîm a minnau yn ei wneud.

I grynhoi ar gyfer Cam 1, cynhaliwyd 33 sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd, yn cynnwys, 8 sesiwn galw heibio yn bersonol, 11 cyfarfod cyhoeddus rhithwir/ar-lein, a 14 cyfarfod cyhoeddus wyneb yn wyneb.

Unwaith eto, diolch am eich holl amser, cyfraniadau a chefnogaeth ynglŷn â'r rhain.

Yn ogystal ag amserlen ymgysylltu sesiynau cyhoeddus, parheais i gyfarfod â rhanddeiliaid amrywiol gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, yn ogystal ag arweinwyr grwpiau cymunedol gan gynnwys Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid (GCR), grwpiau staff o fewn y GCTMB ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (EAAC), a chyrff cynrychioliadol eraill.

Fel yr eglurwyd yn flaenorol, yn dilyn Cam 1, y gwaith i ddatblygu ystod o opsiynau yw'r ffocws i fy nhîm a minnau yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, pob un wedi'i lywio gan yr adborth hyd yma yn ogystal â modelu data cyflenwol sydd hefyd ar y gweill.

Cyflwynwyd crynodeb o themâu sy'n dod i'r amlwg o Gam 1 y cam 'gwrando' i'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB) ym mis Gorfennaf, a oedd yn tynnu sylw at yr hyn a glywyd yn y sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd.

Nid oedd y themâu a ddaeth i’r amlwg yn cynnwys yr ymatebion i’r holiaduron ar-lein a chopi caled a oedd yn dal i gael eu dadansoddi, ond roedd yn caniatáu i ni rannu’r prif bwyntiau, pryderon, ymholiadau ac awgrymiadau a ddaeth i law yn ystod Cam 1 gyda holl Brif Weithredwyr y Byrddau Iechyd a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Nid oedd y themâu hyn wedi'u cyfyngu i Adolygiad Gwasanaeth GCTMB yn unig, ond roeddent hefyd yn cyfeirio at adborth ehangach y system iechyd a gofal a wynebodd trwy gydol yr 14 wythnos. Mae manylion a phapurau cyfarfod pwyllgor ar wefan PGAB, https://pgab.gig.cymru/ypwyllgor/cyfarfodydd-a-phapurau/ sy'n mynd i fwy o fanylion am yr adborth.

Fel yr eglurais o'r blaen, unwaith y bydd yr opsiynau'n cael eu datblygu, byddaf yn dod yn ôl i'r cyhoedd fel Cam 2 ar gyfer eich sylwadau ar y rhain a fydd yn fy helpu i gyrraedd opsiwn a argymhellir ac a ffefrir. Yna, byddaf yn cymryd yr opsiwn hwn a argymhellir i gael ei
ystyried gan y PGAB i'w benderfynu.

Bydd Cam 2 o ymgysylltu â’r cyhoedd yn dechrau yn yr hydref a chyn gynted ag y bydd dyddiadau a manylion lleoliadau wedi’u cadarnhau ar gyfer y cam hwn, byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi, ein rhanddeiliaid, yn ogystal â chyhoeddi’r holl ddiweddariadau ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn union fel rydym ni wedi gwneud drwy gydol yr ymgysylltu.

Rhoddais gyfweliad gyda BBC Radio Wales Country Focus yr wythnos diwethaf ac efallai yr hoffech wrando arno sydd hefyd yn amlinellu ble rydym ac yn darparu diweddariad: https://www.bbc.co.uk/programmes/m001pcbs

Byddaf mewn cysylltiad eto gyda diweddariadau pellach ond yn y cyfamser, fy nymuniadau gorau am haf da a diolch diffuant unwaith eto am eich diddordeb parhaus ar y mater hwn.

Cofion gorau,
Stephen Harrhy
Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys .

Edrychwch ar ein tudalen Adolygiad Ambiwlans Awyr am yr holl erthyglau newyddion a diweddariadau am yr adolygiad o wasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru.

Rhannu:
Cyswllt: