Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Deithio Ewropeaidd gan Weinidog Iechyd

Mae Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ysgrifennu:

"Rwy’n ymwybodol bod peth pryder wedi’i fynegi am y sylw yn y cyfryngau bod rhai brechlynnau heb eu hawdurdodi gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd ac nad ydynt yn cael eu cydnabod gan rai gwledydd at ddibenion teithio. Mae pob dos a ddefnyddiwyd yn y DU wedi bod drwy wiriadau diogelwch ac ansawdd trwyadl, gan gynnwys profi sypiau unigol ac archwiliadau corfforol o safleoedd, gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Hoffwn fod yn glir nad oes unrhyw frechlynnau Covishield wedi’u rhoi yn y DU. Mae pob brechlyn AstraZeneca a roddwyd yn y DU yn ymddangos ar Bàs COVID y GIG fel Vaxzevria. Mae’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi awdurdodi’r brechlyn hwn ac rydym yn hyderus na fydd unrhyw amhariad ar deithio."

Ffynhonnell: Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Gynnydd Rhaglen Frechu COVID-19 yn erbyn y Strategaeth (13 Gorffennaf 2021) | LLYW.CYMRU

Rhannu:
Cyswllt: