Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Rwy'n croesawu'r camau cadarn a gymerwyd yr wythnos diwethaf gan GIG Lloegr / Gwella i roi cefnogaeth ychwanegol ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford (SaTH) trwy Gynghrair Gwella gydag Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Birmingham (UHB). Bydd UHB yn gweithio gyda SaTH i ddarparu arbenigedd arweinyddiaeth a fydd yn cefnogi'r Ymddiriedolaeth i gynnig gwasanaethau clinigol diogel a chynaliadwy i gleifion.
“Mae adroddiad heddiw gan y Comisiwn Ansawdd Gofal yn nodi’n glir nifer o fethiannau sylweddol yn y gwasanaethau a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth, sef prif ddarparwr gwasanaethau ysbyty acíwt i drigolion gogledd ddwyrain Powys.
“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chomisiynwyr iechyd yn Lloegr, y Comisiwn Ansawdd Gofal, GIG Lloegr / Gwella a phartneriaid eraill drwy’r trefniadau cymorth newydd hyn i sicrhau bod gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud.
“Rwyf wedi cyfarfod yr wythnos hon â Dr David Rosser, Prif Weithredwr UHB, fel y gallwn sicrhau bod anghenion a phrofiadau cleifion Powys wrth galon y gynghrair wella newydd hon.”
Mae'n hanfodol bod llais cleifion yn cael ei glywed. Os oes gennych bryderon am eich gofal a'ch triniaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford gallwch godi'r rhain mewn sawl ffordd:
Gallwch rannu'ch pryderon yn uniongyrchol â'r Ymddiriedolaeth trwy eu Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion. Gellir cysylltu â'u tîm:
Gallwch rannu'ch pryderon gyda'n tîm Gweithio i Wella ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:
Gallwch gysylltu â'ch Cyngor Iechyd Cymuned lleol, sy'n darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, rhad ac am ddim, dan arweiniad cleientiaid:
Mae hi hefyd yn hanfodol bod cynnydd yn parhau i gael ei wneud ar y weledigaeth tymor hir ar gyfer gwasanaethau diogel a chynaliadwy yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford, y cytunwyd arni trwy raglan Future Fit y GIG. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Ysbyty Brenhinol Amwythig fel prif Ganolfan Gofal Brys yr Ymddiriedolaeth.
Adroddiad y Comisiwn Ansawdd Gofal (Care Quality Commission, CQC): https://www.cqc.org.uk/provider/RXW