Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig ac Telford

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Rwy'n croesawu'r camau cadarn a gymerwyd yr wythnos diwethaf gan GIG Lloegr / Gwella i roi cefnogaeth ychwanegol ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford (SaTH) trwy Gynghrair Gwella gydag Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Birmingham (UHB). Bydd UHB yn gweithio gyda SaTH i ddarparu arbenigedd arweinyddiaeth a fydd yn cefnogi'r Ymddiriedolaeth i gynnig gwasanaethau clinigol diogel a chynaliadwy i gleifion.

“Mae adroddiad heddiw gan y Comisiwn Ansawdd Gofal yn nodi’n glir nifer o fethiannau sylweddol yn y gwasanaethau a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth, sef prif ddarparwr gwasanaethau ysbyty acíwt i drigolion gogledd ddwyrain Powys.

“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chomisiynwyr iechyd yn Lloegr, y Comisiwn Ansawdd Gofal, GIG Lloegr / Gwella a phartneriaid eraill drwy’r trefniadau cymorth newydd hyn i sicrhau bod gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud.

“Rwyf wedi cyfarfod yr wythnos hon â Dr David Rosser, Prif Weithredwr UHB, fel y gallwn sicrhau bod anghenion a phrofiadau cleifion Powys wrth galon y gynghrair wella newydd hon.”

Mae'n hanfodol bod llais cleifion yn cael ei glywed. Os oes gennych bryderon am eich gofal a'ch triniaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford gallwch godi'r rhain mewn sawl ffordd:


Gallwch rannu'ch pryderon yn uniongyrchol â'r Ymddiriedolaeth trwy eu Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion. Gellir cysylltu â'u tîm: 

  • trwy e-bost i sath.pals@nhs.net
  • dros y ffôn ar 0800 783 0057, neu 
  • trwy'r post i'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion, Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford, Ysbyty Brenhinol Amwythig, Mytton Oak Road, Amwythig SY3 8XQ

Gallwch rannu'ch pryderon gyda'n tîm Gweithio i Wella ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:

  • trwy e-bost i concerns.qualityandsafety.pow@wales.nhs.uk
  • dros y ffôn ar 01874 712967
  • trwy'r post i'r Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Tŷ Glasbury, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Aberhonddu, LD3 0LU

Gallwch gysylltu â'ch Cyngor Iechyd Cymuned lleol, sy'n darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, rhad ac am ddim, dan arweiniad cleientiaid: 

  • trwy e-bost i enquiries.powyschc@waleschc.org.uk
  • yn y post i Gyngor Iechyd Cymunedol Powys, Ystafell 204, Ladywell House, Y Drenewydd, SY16 1JB

Mae hi hefyd yn hanfodol bod cynnydd yn parhau i gael ei wneud ar y weledigaeth tymor hir ar gyfer gwasanaethau diogel a chynaliadwy yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford, y cytunwyd arni trwy raglan Future Fit y GIG. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Ysbyty Brenhinol Amwythig fel prif Ganolfan Gofal Brys yr Ymddiriedolaeth.
 

Adroddiad y Comisiwn Ansawdd Gofal (Care Quality Commission, CQC): https://www.cqc.org.uk/provider/RXW

Rhannu:
Cyswllt: