Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Agored Recriwtio Nyrsys dan Arweiniad Cymunedol - Ysbyty Tref-y-Clawdd

Graffeg cartŵn o bedair nyrs, dwy ddyn a dwy fenyw

Hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith o sefydlu ward newydd sy'n cynnig gofal cwbl gefnogol yn seiliedig ar gleifion ac yn cynrychioli anghenion y gymuned hon? Os ydych, yna ymunwch â thîm arloesol fydd yn arwain ar ofal eiddilwch a gofal diwedd oes?  

Bydd ein hagwedd ffres at ofal iechyd cymunedol yn cynnig y rhyddid i chi weithio'r ffordd rydych chi’n meddwl y dylai nyrsio fod. 

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn gweithio tuag at recriwtio Nyrsys Cofrestredig a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i ailagor Ward Panpwnton yn gynnar yn 2023.  

Ymunwch â ni am baned a bisgedi, lle byddwn ni’n hapus i siarad trwy bob rôl, ateb unrhyw ymholiad o ran gweithio i BIAP a chynnig taith o amgylch y ward i chi. 

Dydd Iau 8fed Medi  

10.30am - 2.30pm 

Dewch i brif fynedfa Ysbyty Trefyclo, Heol Ffrydd Road, Trefyclo, LD7 1DF. 

 

Methu mynychu ond diddordeb mewn clywed mwy? Anfonwch e-bost at PowysJobs@wales.nhs.uk

 

Mae gennym hefyd Ddiwrnodau Agored Recriwtio yn ystod mis Medi a Hydref yn y Trallwng, Machynlleth, Y Drenewydd a Llanidloes. Am fwy o wybodaeth ewch i: Diwrnodau Agored Recriwtio Gweithiwr Cefnogi Nyrsio a Gofal Iechyd - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Cyhoeddwyd: 12/08/2022

Rhannu:
Cyswllt: