Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnodau Agored Recriwtio Gweithiwr Cefnogi Nyrsio a Gofal Iechyd

Llun cartwn o nyrsys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys am recriwtio Nyrsys band 5 a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd band 2 mewn ysbytai ar draws Gogledd Powys. Bydd Diwrnodau Agored yn cael eu cynnal ar safleoedd ysbytai drwy gydol mis Medi a mis Hydref i roi cyfle i bobl gwrdd â’r tîm a chael taith o amgylch y wardiau. Ymunwch â ni am de a bisgedi pan fydd y tîm yn hapus i drafod pob rôl ac ateb unrhyw gwestiynau am weithio i BIAP. Methu trefnu gofal plant? Mae croeso i blant hefyd.

Ysbyty Machynlleth | Dydd Mawrth 13 Medi

Ysbyty Llanidloes | Dydd Iau 15 Medi

Ysbyty Y Trallwng | Dydd Mercher 28 Medi

Ysbyty'r Drenewydd | Dydd Mercher 19 Hydref

Mae pob diwrnod agored rhwng 10yb a 4yp

 

Methu mynychu ond diddordeb mewn clywed mwy? Anfonwch e-bost at PowysJobs@wales.nhs.uk

 

Hefyd mae gennym Ddiwrnod Agored Recriwtio yn Nhref-y-Clawdd ar 8 Medi - am ragor o wybodaeth ewch i Diwrnod Agored Recriwtio Nyrsys dan Arweiniad Cymunedol - Ysbyty Tref-y-Clawdd - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Cyhoeddwyd: 25/08/2022

Rhannu:
Cyswllt: