Neidio i'r prif gynnwy

Dydd Iau 23 Tachwedd yw Diwrnod Gweithwyr Cymorth Nyrsio a hoffwn ddiolch o galon yn bersonol i'n holl Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd anhygoel ym Mhowys sy'n darparu cefnogaeth hanfodol i feysydd Nyrsio, Bydwreigiaeth a lleoliadau gofal eraill.

Rydych chi'n rhan hanfodol o'n gweithlu ac mae eich cyfraniad at y gofal iechyd y mae pobl yn ei dderbyn ym Mhowys mor bwysig, ac o fudd ac effaith enfawr.

Rwy'n gwybod na allai Nyrsys a Bydwragedd wneud eu gwaith heboch chi.

Trwy gydol fy ngyrfa, rydw i wedi gweithio gyda Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd anhygoel sydd nid yn unig wedi fy nghefnogi fel Cofrestrydd ond sydd hefyd wedi cyfrannu at fy nysgu a'm datblygiad. Diolch i chi am bopeth rydych chi'n ei wneud bob dydd.

Claire Roche

Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Cyhoeddwyd: 23/11/2023