Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud ar sut y gall Llais weithio gyda phobl Cymru ar gyfer gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Diweddariad gan Llais, y gorff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol:

Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn darn pwysig o waith sy'n cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf, a gobeithiwn y bydd o ddiddordeb i chi.

Mae Llais yn gorff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud yma.

Fel rhan o'n cynllun 100 diwrnod a lansiwyd yn ddiweddar, rydym am gael sgwrs genedlaethol gyda phobl ym mhob rhan o Gymru, i weithio gyda ni i'n helpu i ddatblygu ein gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol.

Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn y gwaith parhaus hwn. Rydym am i chi rannu eich barn ar yr hyn rydych chi'n credu sydd angen digwydd, a sut y gallwch chi weithio gyda ni, i sicrhau bod ein gweithgareddau'n golygu bod eich barn a'ch profiadau yn cael eu defnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell.

Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn ein helpu i nodi'r cyfeiriad a'r blaenoriaethau ar gyfer gwaith Llais yn y dyfodol yn y blynyddoedd i ddod a helpu i sicrhau ei fod yn gweithio i bawb, ym mhob rhan o Gymru.

Mae nifer o ffyrdd syml y gallwch chi, a'r rhai rydych chi'n byw, cymdeithasu neu weithio gyda nhw ymuno â'r sgwrs cyn y dyddiad cau sef 31 Gorffennaf 2023:

1. Ymunwch â ni ar 10fed Gorffennaf: Dewch draw i'n digwyddiad ar-lein ar 10fed Gorffennaf 18.00 - 19.30yp, i gael trafodaeth gyfoethog ar Llais gyda phobl o bob rhan o'ch rhanbarth. Archebwch eich lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/have-your-say-llais-powys-dweud-eich-dweud-llais-powys-tickets-663472272427

2. Cwblhewch ein harolwg syml: Naill ai rhannu eich meddyliau, syniadau a phrofiadau eich hun, neu drafod y cwestiynau hyn gyda'ch cydweithwyr a'ch cymunedau, a rhannu eich ymatebion fel grŵp. Dolen i'r arolwg yma: https://forms.office.com/e/aNk8nDxWrN
(Wedi'u cynnwys yn ein harolwg mae'r egwyddorion eang sy'n llywio datblygiad Llais, i'ch helpu i ystyried effeithiau posibl i chi, eich sefydliad neu'ch cymuned. Gallwn hefyd roi arweiniad i chi ar gyfer cael y sgwrs hon gyda'ch cymunedau).

3. Sgwrsio gyda ni: Os byddai'n well gennych siarad â ni, rhowch wybod i ni drwy ateb yr e-bost hwn. Byddwn yn trefnu amser a dyddiad sy'n addas i chi, neu byddwn yn hapus i ymuno â chyfarfod rhithwir o'ch tîm neu'ch cymuned i drafod pethau gyda'ch gilydd.
(Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i sgwrsio â ni, fel cyfieithiad, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cysylltu â ni a byddwn yn trefnu.)

Os hoffech drafod y gwaith yn fanylach, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r uchod, cysylltwch â ni drwy e-bostio powysenquiries@llaiscymru.org

Mae croeso i chi rannu'r gwahoddiad hwn gyda'ch ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr; rydym am glywed gan amrywiaeth mor eang â phosibl o bobl.

Am y diweddariadau diweddaraf, a rhagor o wybodaeth am Llais a'i ddatblygiad, dilynwch y ddolen yma: https://www.llaiscymru.org/

 

Rhannu:
Cyswllt: