Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud ar yr Asesiad Anghenion Fferyllol drafft erbyn 30 Gorffennaf 2021

Daeth Rheoliadau’r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) 2020 i rym ar 1 Hydref 2020 ac roeddent yn cynnwys gofyniad i fyrddau iechyd gynhyrchu Asesiad o Anghenion Fferyllol (AAFf) erbyn 1 Hydref 2021. Hwn fydd yr AAFf cyntaf a gyhoeddwyd gan Fyrddau Iechyd Cymru. Mae'r Rheoliadau'n mynnu bod yn rhaid ymgymryd ag AAFf o leiaf bob 5 mlynedd (neu'n gynt os yw Bwrdd Iechyd yn nodi newidiadau sylweddol i'r angen am wasanaethau fferyllol).

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi drafftio ei AAFf cyntaf i asesu a yw gwasanaethau fferyllol a ddarperir yn ei ardal yn diwallu anghenion fferyllol y boblogaeth ym Mhowys.

Bydd yr AAFf yn helpu'r Bwrdd Iechyd i reoli a gwneud penderfyniadau ar geisiadau am fferyllfeydd newydd, adleoli fferyllfeydd presennol a'r ystod o wasanaethau sydd eu hangen.

Sylwch fod yr AAFf yn canolbwyntio ar wasanaethau fferyllol cymunedol, neu'r hyn y gallwch chi gyfeirio atynt fel “Fferyllfeydd”.

Hoffai'r Bwrdd Iechyd gael eich sylwadau ar yr AAFf drafft ac mae'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 1 Mehefin 2021 a 30 Gorffennaf 2021.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad neu os oes gennych gwestiynau am yr asesiad o anghenion fferyllol:

Ewch i’n gwefan: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/asesiad-o-anghenion-fferyllol-2021

E-bostiwch: Powys.PNA@wales.nhs.uk.

Diolch. Mae eich barn yn bwysig i ni.

Rhannu:
Cyswllt: