Wrth i ddysgwyr rhwng tair a saith oed (dosbarthiadau Blynyddoedd Cynnar a Derbyn a Blynyddoedd Un a Dau) ddychwelyd yn ddiogel ac yn drefnus yr wythnos hon, mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys hefyd yn atgoffa rhieni o'r camau y gallwn i gyd eu cymryd i leihau lledaeniad y coronafeirws.
Bydd yr awdurdod lleol ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd lleol yn ysgrifennu'r wythnos hon at rieni disgyblion sy'n dychwelyd gyda chyngor ac arweiniad i helpu i gadw'n teuluoedd yn ddiogel.
Meddai Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Mae'r pandemig wedi effeithio ar ein bywydau ni i gyd ond mae ein plant wedi cael eu heffeithio fwyaf. Gwn y bydd rhieni wedi bod yn poeni am yr effaith y mae peidio â bod yn yr ysgol wedi'i chael ar les eu plant, eu cyfeillgarwch a'u cyfle i dyfu a datblygu drwy amrywiaeth o weithgareddau yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol boed hynny'n chwaraeon, cerddoriaeth, dawns, y celfyddydau neu weithgareddau eraill.
"Mae'r camau y bu'n rhaid i ni eu cymryd fel cymdeithas i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl ac i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal yn gallu parhau i ofalu amdanom pan fydd eu hangen arnom, wedi bod yn anodd ond yn angenrheidiol. Mae llwyddiant ein rhaglen frechu leol yn parhau i gynnig amddiffyniad ychwanegol i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl a byddwn yn parhau â'n hymdrechion i gyrraedd pawb sydd angen brechlyn cyn gynted ag y medrwn.
"Allwn ni ddim ymlacio eto, mae angen i ni fod yn ofalus o hyd a chadw lefelau'r haint mor isel â phosibl. Wrth reoli'r pandemig yn lleol a diogelu ein poblogaeth rwy'n gweithio'n agos gyda fy nghydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd, y Cyngor Lleol, mudiadau gwirfoddol a chymunedol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ond ni allwn lwyddo heb eich help chi a'n holl boblogaeth leol."
Mae'r penaethiaid a'u holl staff wedi gweithio'n galed iawn i wneud ysgolion Powys mor ddiogel â phosibl. Ond, pan fydd plant yn mynd yn ôl i'r ysgol mae'n hanfodol bod pawb yn parhau i helpu i reoli lledaeniad y feirws drwy:
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Diogelwch ein dysgwyr a staff ysgolion yw ein prif flaenoriaeth.
"Wrth i ysgolion baratoi i groesawu dysgwyr yn ôl yn raddol, mae'n hanfodol bod pob teulu'n chwarae eu rhan drwy ddilyn y canllawiau yma yng Nghymru ac nad ydynt yn cymysgu y tu allan i'r ysgol i atal lledaenu Covid-19. Mae llawer o staff ysgolion a rhieni yn bryderus pan fyddant yn clywed adroddiadau am deuluoedd yn cymysgu a'i gilydd mewn digwyddiadau gyda phlant yn aros dros nos mewn cartrefi eraill.
"Bydd ein hysgolion yn dal i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol yn ogystal â dysgwyr sy'n agored i niwed ym mhob grŵp oedran. Fodd bynnag, mae agor ysgolion yn raddol yn bwysig er mwyn sicrhau diogelwch ein dysgwyr a'n staff, felly bydd rhaid i grwpiau blynyddoedd eraill aros gartref.
"Hoffwn ddiolch i ysgolion am eu hymdrechion parhaus i gefnogi disgyblion yn ystod y cyfnod anodd hwn a hoffwn ddiolch hefyd i rieni am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod digynsail hwn o darfu ar ein hysgolion.
"Diolch am eich help wrth geisio atal y feirws a'n helpu ni i gyd i ddychwelyd i fywyd arferol cyn gynted ag y medrwn."
Cofiwch, mae Cymru gyfan dan glo (lefel rhybudd 4) lle mae'n rhaid i bobl ddilyn canllawiau cenedlaethol ac:
Dylai pawb ddilyn y canllawiau hyn p'un a ydynt wedi cael brechlyn COVID-19 ai peidio.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i bob un ohonom ei wneud ar Lefel Rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.
I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/