Neidio i'r prif gynnwy

Dychwelyd yn ddiogel ac yn drefnus i'r ysgol

Wrth i ddysgwyr rhwng tair a saith oed (dosbarthiadau Blynyddoedd Cynnar a Derbyn a Blynyddoedd Un a Dau) ddychwelyd yn ddiogel ac yn drefnus yr wythnos hon, mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys hefyd yn atgoffa rhieni o'r camau y gallwn i gyd eu cymryd i leihau lledaeniad y coronafeirws.

Bydd yr awdurdod lleol ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd lleol yn ysgrifennu'r wythnos hon at rieni disgyblion sy'n dychwelyd gyda chyngor ac arweiniad i helpu i gadw'n teuluoedd yn ddiogel.

Meddai Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

"Mae'r pandemig wedi effeithio ar ein bywydau ni i gyd ond mae ein plant wedi cael eu heffeithio fwyaf.  Gwn y bydd rhieni wedi bod yn poeni am yr effaith y mae peidio â bod yn yr ysgol wedi'i chael ar les eu plant, eu cyfeillgarwch a'u cyfle i dyfu a datblygu drwy amrywiaeth o weithgareddau yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol boed hynny'n chwaraeon, cerddoriaeth, dawns, y celfyddydau neu weithgareddau eraill.

"Mae'r camau y bu'n rhaid i ni eu cymryd fel cymdeithas i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl ac i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal yn gallu parhau i ofalu amdanom pan fydd eu hangen arnom, wedi bod yn anodd ond yn angenrheidiol.  Mae llwyddiant ein rhaglen frechu leol yn parhau i gynnig amddiffyniad ychwanegol i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl a byddwn yn parhau â'n hymdrechion i gyrraedd pawb sydd angen brechlyn cyn gynted ag y medrwn.

"Allwn ni ddim ymlacio eto, mae angen i ni fod yn ofalus o hyd a chadw lefelau'r haint mor isel â phosibl.  Wrth reoli'r pandemig yn lleol a diogelu ein poblogaeth rwy'n gweithio'n agos gyda fy nghydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd, y Cyngor Lleol, mudiadau gwirfoddol a chymunedol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ond ni allwn lwyddo heb eich help chi a'n holl boblogaeth leol."

Mae'r penaethiaid a'u holl staff wedi gweithio'n galed iawn i wneud ysgolion Powys mor ddiogel â phosibl. Ond, pan fydd plant yn mynd yn ôl i'r ysgol mae'n hanfodol bod pawb yn parhau i helpu i reoli lledaeniad y feirws drwy:

  • Peidio ag anfon eich plentyn i'r ysgol os yw'n sâl hyd yn oed os nad ydych yn siŵr ai'r coronafeirws ydyw neu beidio
  • Parhau i weithio gartref os yw'n bosibl
  • Peidiwch â gwahodd plant eraill i'ch cartref i chwarae, hyd yn oed yn yr awyr agored a hyd yn oed os ydynt yn yr un swigod yn yr ysgol
  • Oni bai nad oes gennych ddewis, peidiwch â derbyn cynnig lifft i'r ysgol na gweithgareddau eraill gan rieni eraill
  • Pan fyddwch yn mynd â'ch plentyn i'r ysgol – cadwch eich pellter oddi wrth rieni eraill a pheidiwch â chael eich temtio i aros a sgwrsio
  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall pwysigrwydd golchi ei ddwylo yn rheolaidd

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Diogelwch ein dysgwyr a staff ysgolion yw ein prif flaenoriaeth.

"Wrth i ysgolion baratoi i groesawu dysgwyr yn ôl yn raddol, mae'n hanfodol bod pob teulu'n chwarae eu rhan drwy ddilyn y canllawiau yma yng Nghymru ac nad ydynt yn cymysgu y tu allan i'r ysgol i atal lledaenu Covid-19.  Mae llawer o staff ysgolion a rhieni yn bryderus pan fyddant yn clywed adroddiadau am deuluoedd yn cymysgu a'i gilydd mewn digwyddiadau gyda phlant yn aros dros nos mewn cartrefi eraill.

"Bydd ein hysgolion yn dal i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol yn ogystal â dysgwyr sy'n agored i niwed ym mhob grŵp oedran.  Fodd bynnag, mae agor ysgolion yn raddol yn bwysig er mwyn sicrhau diogelwch ein dysgwyr a'n staff, felly bydd rhaid i grwpiau blynyddoedd eraill aros gartref.

"Hoffwn ddiolch i ysgolion am eu hymdrechion parhaus i gefnogi disgyblion yn ystod y cyfnod anodd hwn a hoffwn ddiolch hefyd i rieni am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod digynsail hwn o darfu ar ein hysgolion.

"Diolch am eich help wrth geisio atal y feirws a'n helpu ni i gyd i ddychwelyd i fywyd arferol cyn gynted ag y medrwn."

Cofiwch, mae Cymru gyfan dan glo (lefel rhybudd 4) lle mae'n rhaid i bobl ddilyn canllawiau cenedlaethol ac:

  • aros gartref
  • peidio â chwrdd â neb ond y bobl rydych chi'n byw gyda nhw
  • gweithio gartref os medrwch
  • gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen
  • golchi eich dwylo'n rheolaidd
  • arhoswch 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw

Dylai pawb ddilyn y canllawiau hyn p'un a ydynt wedi cael brechlyn COVID-19 ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i bob un ohonom ei wneud ar Lefel Rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.

I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/

 

Rhannu:
Cyswllt: