Neidio i'r prif gynnwy

Dywedwch Wrthym Am Eich Profiad O'r GIG

Cwsmer yn rhoi adborth i brofiad gwasanaeth ar ar-lein

Heddiw mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi lansio offeryn arolygu newydd i ganiatáu i gleifion, teuluoedd ac eraill roi adborth pwysig am wasanaethau'r GIG y maen nhw’n eu defnyddio.

Mae deall profiadau pobl o ddefnyddio gwasanaethau’r GIG yn allweddol er mwyn gwneud gwelliannau a sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar y meysydd cywir.

Dim ond drwy ddeall yr hyn sydd bwysicaf i'n cymunedau y gallwn ddarparu'r gofal iechyd gorau posibl i bawb.

Mae'r offeryn arolygu newydd hwn yn ddienw ac felly'n caniatáu i bobl fod yn gwbl onest wrth leisio’u barn.

Mae BIAP yn gyfrifol nid yn unig am y gofal iechyd rydym yn ei ddarparu ym Mhowys, ond hefyd y gwasanaethau y mae ein cymunedau yn eu cyrchu y tu allan i'r sir ac felly rydym yr un mor awyddus i dderbyn adborth ar wasanaethau y mae ein trigolion yn eu defnyddio yn ysbytai ar draws gweddill Cymru a Lloegr.

Am ragor o wybodaeth ac i gyrchu’r arolygon ewch i https://biap.gig.cymru/cysylltwch-a-ni/adborth-a-chwynion/

Rhannu:
Cyswllt: