Neidio i'r prif gynnwy

Ffocws Cymunedol Llanfair Caereinion

Dyma'r rhifyn cyntaf o gylchlythyr cymunedol rheolaidd ar gyfer pobl ardal Llanfair Caereinion a ddyluniwyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad y Ganolfan Gofal Sylfaenol arfaethedig yn y dref.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Practis Meddygol Caereinion a'r partner datblygu Assura yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r prosiect hwn gyda'r bwriad o wella cyfleusterau yn y dref a fydd yn cynnal:

  • Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, h.y. y gwasanaethau a ddarperir gan eich Meddygon Teulu;
  • Gwasanaethau cymunedol o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, fel nyrsio ardal a gwasanaethau ymwelwyr iechyd;
  • Gwasanaethau deintyddol cyffredinol, h.y. deintyddiaeth gyffredinol a ddarperir gan ddeintyddion a gyflogir gan y bwrdd iechyd.

Mae Jayne Lawrence yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Gofal Sylfaenol gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Eglurodd: "Mae'r prosiect hwn wedi'i ohirio oherwydd costau adeiladu cynyddol ledled y diwydiant ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu adeilad newydd gwych i gleifion yn ardal Llanfair Caereinion."

"Rydym yn sylweddoli bod cyfyngiadau yn adeilad presennol y practis ac rydym yn gweithio'n galed i adeiladu adeilad newydd ar Stryd Watergate cyn gynted â phosibl. Bydd y Ganolfan Gofal Sylfaenol newydd yn cael ei hadeiladu yn unol â safonau BREEAM amgylcheddol diweddaraf, bydd yn darparu mwy o barcio i gleifion a staff ar y safle sydd 1.7 erw, bydd yn gwella cyfrinachedd cleifion yn ogystal â darparu gwell cyfleusterau i gleifion a staff," ychwanegodd Jayne.

 

Cyhoeddwyd: 05/07/2023

Rhannu:
Cyswllt: