Gall Unedau Mân Anafiadau ym Mhowys drin oedolion a phlant 2 oed a hŷn.
Gofynnwn ichi ffonio cyn ymweld â'n Unedau Mân Anafiadau. Bydd ein nyrsys arbenigol yn gallu rhoi cyngor i chi dros y ffôn, trefnu apwyntiad i chi, neu eich cyfeirio at wasanaeth arall os yw'n briodol. Bydd galw heibio ar gael os nad ydych chi'n gallu defnyddio'r ffôn.
Edrychwch ar ein tudalen Diweddariadau Gwasanaeth ar gyfer amseroedd agor Unedau Mân Anafiadau.
Mae llawer o feddygfeydd ym Mhowys hefyd yn cynnig gwasanaeth mân anafiadau. Gwiriwch â'ch practis lleol am fanylion.
Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau gofal brys ar gael yn adran Gofal Brys ein gwefan .