Gall Unedau Mân Anafiadau Powys drin oedolion a phlant 2+ oed ag anafiadau nad ydynt yn argyfyngus neu'n rhai sy'n bygwth bywyd.
Gall y mathau o anafiadau a gaiff eu trin gynnwys:
Ffoniwch cyn i chi ymweld â'n Hunedau Mân Anafiadau. Bydd ein nyrsys arbenigol yn gallu rhoi cyngor i chi dros y ffôn, trefnu apwyntiad i chi, neu eich cyfeirio at wasanaeth arall os yn briodol.
Y tu allan i'r amseroedd hyn cynghorir cleifion i gysylltu â 111 i gael cyngor meddygol. Mewn argyfwng ffoniwch 999.
Cofiwch nad yw Pelydr-X ar gael i'r rhai dan 5 oed yn Aberhonddu, Llandrindod ac Ystradgynlais.
Defnyddiwch y tabl isod i helpu dod o hyd i'r gwasanaeth cywir y tro cyntaf:
Damweiniau ac Achosion Brys |
111 |
Fferyllfa |
Meddyg Teulu |
|
Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud; Gall GIG 111 helpu os oes angen cymorth meddygol brys arnoch neu os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud. Byddant yn gofyn cwestiynau am eich symptomau er mwyn i chi gael yr help sydd ei angen arnoch. Os oes angen i chi fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys, bydd GIG 111 yn archebu amser cyrraedd. Gallai hyn olygu eich bod yn treulio llai o amser yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Gallwch gael help gan GIG 111 ar-lein neu ffoniwch 111. Mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Crawniad deintyddol / poen dannedd – GIG 111 |
|
|
Cyhoeddwyd: 03/08/2022