Gall trigolion Powys nawr gofrestru ar-lein i ymuno â rhestr aros ar gyfer triniaeth Ddeintyddol y GIG.
Nawr, yn ogystal â gallu ffonio'r llinell gymorth ddeintyddol, gallwch hefyd gofrestru drwy gronfa ddata genedlaethol a bydd y deintydd lleol nesaf yn cysylltu â chi gyda'r lleoedd sydd ar gael.
Sut i gyrchu gwasanaethau deintyddol y GIG ar gyfer triniaeth arferol
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda deintydd y GIG ac angen gwneud apwyntiad ar gyfer triniaeth arferol, cysylltwch â’ch practis deintyddol yn uniongyrchol.
Gallwch wneud cais am le ar-lein os:
Gwnewch gais am le gyda deintydd y GIG
Gallwch ddefnyddio’r Porth Mynediad Deintyddol i wneud cais am le gyda deintydd y GIG fel unigolyn neu ar ran rhywun arall, fel plentyn, aelod o'r teulu neu fel gofalwr cyflogedig neu ddi-dâl.
Os nad ydych yn dymuno neu os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch Linell Gymorth Ddeintyddol Powys ar 01686 252808.
Os ydych yn gymwys ac yn gwneud cais, byddwn yn cysylltu â chi pan fydd lle addas ar gael.
Os nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn cynnig cymorth ychwanegol.
Os ydych yn byw ym Mhowys neu wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys ac angen help i gael triniaeth ddeintyddol arferol, ffoniwch Linell Gymorth Ddeintyddol Powys ar 01686 252808.
Sut i gael triniaeth ddeintyddol frys
Mae argyfwng deintyddol yn golygu bod angen cymorth brys arnoch ar gyfer problem ddifrifol yn eich ceg.
Gallai hyn gael ei achosi gan bethau fel haint neu anaf deintyddol.
Mae problemau deintyddol brys cyffredin yn cynnwys:
Os ydych wedi cofrestru gyda deintydd y GIG, cysylltwch â’ch practis deintyddol yn uniongyrchol am apwyntiad brys.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda deintydd y GIG, ffoniwch GIG 111 Cymru neu ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael rhagor o wybodaeth.