Neidio i'r prif gynnwy

Gall pobl hŷn weithredu heddiw i ddiogelu eu dyfodol

Mae’n bwysig iawn bod gan bobl hŷn rywun y gallant ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau am iechyd a chyllid os nad ydynt yn gallu gwneud y penderfyniadau hyn eu hunain mwyach.

Gall rhoi’r trefniadau hyn ar waith gydag Atwrneiaeth Arhosol helpu i roi tawelwch meddwl i bobl, yn ogystal â sicrhau eu bod yn parhau i reoli eu materion.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gweithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu canllawiau hwylus ar Atwrneiaeth Arhosol.

Bwriadwyd y canllawiau er mwyn helpu pobl yng Nghymru a Lloegr i ddeall yn well pa mor bwysig yw cael Atwrneiaeth Arhosol er mwyn rheoli eu materion ariannol, eu hiechyd a’u lles. Mae hefyd yn ateb rhai cwestiynau cyffredin yn ymwneud ag atwrneiaethau arhosol a gallant helpu i sicrhau bod penderfyniadau yn y dyfodol sy’n ymwneud â materion ariannol, iechyd a lles yn cael eu diogelu.

Mae’r Canllaw ar gael yn https://comisiynyddph.cymru/adnodd/canllawiau-hwylus-ar-atwrneiaeth-arhosol/

Ewch i daro golwg arno, ac mae croeso i chi rannu'r ddolen hon gydag unrhyw un y gallai fod yn ddefnyddiol iddynt.

Rhannu:
Cyswllt: