Neidio i'r prif gynnwy

Gofyn am eich barn ar gais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau Meddygfa Cangen Belmont yng Ngilwern: Digwyddiad Ar-lein a Digwyddiad Galw Heibio

Mae cyfnod ymgysylltu yn digwydd rhwng 10 Ionawr 2023 a 6 Mawrth 2023 yn dilyn cais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau eu Meddygfa Cangen Belmont yng Ngilwern.

Fel rhan o’r broses ymgysylltu hon:

  • cynhelir sesiwn Holi ac Ateb ar-lein ar 30 Ionawr 2023 rhwng 6yh a 7yh. Cynhelir y sesiwn trwy Microsoft Teams a gallwch wylio trwy ap Microsoft Teams neu ddefnyddio'ch porwr. Darganfyddwch fwy yma .
  • cynhelir digwyddiad galw heibio yn Hyb Cymunedol Gilwern ar 14 Chwefror 2023 rhwng 2yp a 5.45yp. Galwch heibio unrhyw bryd amser rhwng 2yp a 5.45yp i rannu eich barn yn Hyb Cymunedol Gilwern, Heol Comin, Gilwern, NP7 0DS

Dweud eich dweud erbyn 6 Mawrth 2023 ar ein hyb ymgysylltu .

Lawrlwythwch y poster digwyddiadau.

Wedi'i gyhoeddi ar 18 Ionawr 2023

Rhannu:
Cyswllt: