Neidio i'r prif gynnwy

Gofyn am eich barn ar gais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau Meddygfa Cangen Belmont yng Ngilwern

Dweud eich dweud erbyn 6 Mawrth 2023 ar ein wefan ymgysylltu .

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cael cais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau Meddygfa Belmont yng Ngilwern.

Y prif resymau dros y cais yw’r canlynol:

  • Heriau ledled y DU i recriwtio a chadw ymarferwyr meddygol cyffredinol (meddygon teulu).
  • Ymddeoliad pedwar partner meddyg teulu sy’n berchnogion safle'r feddygfa, gyda diffyg dewisiadau amgen hyfyw ar gyfer trosglwyddo perchnogaeth.

Felly, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithredu ei Broses Adolygu Practis, sy'n cynnwys:

  • Adolygu'r cais gan y practis.
  • Rhannu gwybodaeth â chleifion a rhanddeiliaid ehangach i geisio eich barn.
  • Ymgysylltu â'r Cyngor Iechyd Cymunedol, sef y corff statudol i gynrychioli diddordeb cleifion a'r cyhoedd.
  • Ystyried yr adborth a gawn, ac ystyried hwn wrth wneud penderfyniad ynghylch y cais mewn cyfarfod cyhoeddus gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Cynhelir y cyfnod hwn o ymgysylltu rhwng 10 Ionawr 2023 a 6 Mawrth 2023.

Dweud eich dweud erbyn 6 Mawrth 2023 ar ein hyb ymgysylltu .

10 Ionawr 2023

Rhannu:
Cyswllt: