Neidio i'r prif gynnwy

Gwahodd goroeswyr strôc i chwarae golff

Mae prosiect ym Mhowys yn annog pobl sydd wedi goroesi strôc i roi cynnig ar golff neu ddychwelyd i'r gêm maen nhw'n ei charu.

Gyda chyllid gan Golff Cymru, mae'r Gymdeithas Strôc yn gwahodd goroeswyr strôc i gyfres o chwe sesiwn gyda hyfforddwr yng Nghlwb Golff Lakeside yng Ngarthmyl.

Meddai Sharon Sinclair, Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol Canolbarth Cymru ar gyfer Rhaglen Camau Cymunedol y Gymdeithas Strôc:

"Mae'n gyfle gwych i'r rhai sydd wedi cael strôc roi cynnig ar rywbeth newydd neu ddychwelyd i’r gêm os ydyn nhw wedi colli rhywfaint o hyder ers cael strôc. Mae hefyd yn gyfle gwych i gael rhywfaint o ymarfer corff yn yr awyr iach a chwrdd â phobl debyg i chi. Ar ôl i berson gael strôc, mae'n bwysig iawn cadw'r corff i symud gydag ymarfer corff ysgafn fel cerdded.

"Rydym yn aml yn gweld bod rhai pobl sy'n gwella o strôc ddiweddar ychydig yn bryderus ac mae’n bosibl bod ganddynt bryderon ynghylch a allan nhw ddal y clwb, taro'r bêl neu hyd yn oed gerdded neu sefyll am awr. Ond mae'n broses gam wrth gam ac mae gennym hyfforddwr wrth law sy'n gallu helpu gyda phopeth," ychwanegai Sharon.

Cafodd yr hyfforddwr chwaraeon Steve Cox sy’n byw ger Staylittle 13 pwl o isgemia dros dro neu strôc fach bedair blynedd yn ôl:

"Doeddwn i ddim yn gallu cerdded, darllen nac ysgrifennu wedyn ond fe wnaeth fy nghefndir chwaraeon fy helpu i wella. Doeddwn i ddim yn barod i roi'r gorau iddi a doedd hyn ddim yn mynd i'm curo i. Mae ymarfer corff wedi fy helpu i wella'n aruthrol. Rwy'n cerdded yn arafach nawr ac rwy'n gwneud llawer o gaiacio oherwydd mae'n bwysig cadw i fynd."

Yn ôl Michelle Price, Therapydd Ymgynghorol Strôc a Niwroadsefydlu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:

"Mae'n bwysig i'r rhai sydd wedi cael strôc allu cymryd rhan mewn ymarfer corff a gweithgarwch corfforol. Gall helpu i hybu adferiad, hyder a lles. Gall hefyd eich helpu i gadw'n iach ar ôl strôc a lleihau'r risg o strôc bellach."

Mae ymgyrch Helpwch ni i’ch Helpu chi Llywodraeth Cymru yn taflu goleuni ar sut y gallwn fyw bywyd iachach. Drwy wneud nifer o ddewisiadau o ran ein ffordd o fyw, fel bwyta'n iach, bod yn egnïol a diogelu ein lles meddyliol, rydym yn fwy tebygol o fyw'n hirach ac yn llai tebygol o ddatblygu afiechydon a chyflyrau iechyd difrifol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i fyw'n dda, ewch i https://111.wales.nhs.uk/LiveWell/Default.aspx.

Mae ychydig o leoedd ar gael o hyd ar y sesiynau awr o hyd. Fe'u cynhelir ar fore Sadwrn ac maent yn dechrau ar 17 Gorffennaf am 11am.

Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Sharon Sinclair ar 07703 319646.

Rhannu:
Cyswllt: