2 Gorffennaf 2026
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn chwilio am ddarparwyr cymwys i ddarparu Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG yn y Drenewydd.
Gwahoddir cynigion erbyn 24 Gorffennaf 2026. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o borth caffael GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru.
Mae hon yn broses dendro marchnad agored, gyda phob cynnig yn cael ei asesu trwy werthusiad teg a chyfartal.
Mae hyn yn ychwanegol at y gwahoddiad diweddar i gyflwyno tendr ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn Llandrindod.
Hyd nes y bydd gwasanaeth deintyddol newydd y GIG wedi'i sefydlu, gwahoddir cleifion i ymuno â Phorth Mynediad Deintyddol y GIG.
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch ffonio Llinell Mynediad Deintyddol GIG Powys ar 01686 252 808.
Mae ein timau'n gweithio'n galed i sicrhau gwasanaethau deintyddol newydd y GIG yn y sir. Gofynnwn yn garedig am eich amynedd, ystyriaeth a pharch at y tîm ar Linell Mynediad Deintyddol GIG Powys.
Ar ôl ymuno â Phorth Mynediad Deintyddol y GIG, byddwch yn cael lle pan fydd un ar gael.
Rhoddir blaenoriaeth i blant ar gyfer lleoedd newydd.
Ydych chi wedi cofrestru gyda'r Porth Mynediad Deintyddol ?
Cofiwch ddiweddaru eich manylion os bydd unrhyw beth yn newid:
Gall y fideo hwn eich helpu i fewngofnodi eto i'r Porth Mynediad Deintyddol os nad ydych chi'n siŵr sut.
Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd cael gofal deintyddol arferol y GIG ar hyn o bryd. Rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r bylchau hyn. Drwy ymuno â'r Porth Mynediad Deintyddol gallwn eich dyrannu i leoedd deintyddol y GIG pan fyddant ar gael, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i blant ar y rhestr aros.
Mae argyfwng deintyddol yn golygu bod angen cymorth brys arnoch ar gyfer problem ddifrifol yn eich ceg.
Gallai hyn gael ei achosi gan bethau fel haint ac anaf i'r dannedd.
Mae problemau deintyddol brys cyffredin yn cynnwys:
Os ydych chi eisoes yn glaf gyda phractis deintyddol, cysylltwch â'ch practis deintyddol yn uniongyrchol i wneud apwyntiad brys.
Fel arall, ffoniwch GIG 111 Cymru neu ewch i wefan GIG 111 Cymru am ragor o wybodaeth.