Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith diogelwch coed yn Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi

Cwblhawyd arolwg diogelwch a chyflwr ar goeden ffawydd ym maes parcio Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi, Machynlleth.

Cafodd yr arolwg ei wneud gan ymgynghorydd coedyddiaeth a wnaeth gwerthuso diogelwch a chyflwr y goeden ffawydd yn ogystal â chwblhau asesiadau risg gwthiad/ymsuddiant rhagarweiniol. 

Cynhyrchwyd arolwg coeden ar gyfer cofnodion y bwrdd iechyd:

Cafodd un hen goeden ffawydd ei arolygu o’r tir ac archwiliad o’r awyr ar safle Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi, Machynlleth.

Mae coeden ffawydd ‘1001’ tua 179 blwydd oed, ac mewn iechyd da gyda diffygion y gellir eu cywiro’n hawdd y disgrifiwyd fel coeden nodedig sy’n gymharol ifanc.

Nodwyd sawl diffyg strwythurol. Dylid ymgymryd ar y camau adfer isod o fewn 13 wythnos:

a) Diogelu breichiau eilaidd ar 5m S a 8m NNW gyda deunydd cymorth anfewnithiol (megis CobraTM) sydd gyda sgôr yn ddigonol i wrthsefyll yr holl lwythi a ragwelir a’i osod yn unol chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwyr.

b) Lleihau’r goron 15% (radiws), tynnu’r pren wedi’i marw >2.5cm diamedr, y breichiau trydyddol gyda chymalau gwan neu’r rheiny sy’n wan oherwydd eu bod yn croesi breichiau eraill, a’r fraich wedi’i difrodi ar 13m yn y goron uwch ganolog.   

c) Ail-edrych arno bob 18 mis – 2 blwyddyn oherwydd nifer y bobl yn y parth.

Bydd y gwaith yn digwydd ym mis Tachwedd 2021 gan arbenigwr coedyddiaeth fel rhan o raglen cynnal a chadw arferol BIAP.

 

Cyhoeddwyd: 10/11/2021

Rhannu:
Cyswllt: