Mae gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein GIG Cymru wedi cyrraedd 30,000 o atgyfeiriadau ers ei dreialu chwe blynedd yn ôl.
Cafodd y gwasanaeth, sy’n rhad ac am ddim ac yn cael ei bweru gan blatfform iechyd meddwl digidol SilverCloud, ei dreialu'n llwyddiannus ym Mhowys ym mis Mai 2018 a'i rannu ledled Cymru dair blynedd yn ddiweddarach mewn ymateb i bandemig COVID.
Dywedodd rheolwr y prosiect, Fionnuala Clayton, fod carreg filltir nifer yr atgyfeiriadau yn adlewyrchu penderfyniad GIG Cymru i chwalu'r rhwystrau at ofal, a dangos bod y cyhoedd yn barod i gofleidio darpariaeth ddigidol.
Dywedodd Fionnuala: "Mae degau o filoedd o bobl wedi darganfod manteision ein gwasanaeth cymorth ar-lein, gan nad oes ganddo restrau aros, mae’n gyfleus i’w ffordd o fyw ac yn canolbwyntio ar atal yn gyntaf.
"Gyda llwybrau atgyfeirio newydd eisoes ar waith a mwy o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill, mae’r gwasanaeth yn debygol o fynd o nerth i nerth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gynnig cymorth i fwy o gleifion wrth i'r prosiect barhau."
Mae'r gwasanaeth - sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru - wedi'i leoli ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae rhaglenni rhyngweithiol SilverCloud yn dysgu sgiliau ymdopi ymarferol ar gyfer materion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol a gellir eu cyrchu ar-lein unrhyw bryd, unrhyw le trwy unrhyw ddyfais symudol, llechen, gliniadur neu ddyfais bwrdd gwaith.
Maen nhw ar gael am ddim i unrhyw un yng Nghymru 16+ oed heb atgyfeiriad meddyg teulu.
Gall cleifion hefyd gael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth gan ymarferwyr gofal iechyd ym Mhowys, a thrwy bartneriaethau gydag Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Phrifysgol Cwm Taf.
Darperir cefnogaeth drwy'r rhaglenni 12 wythnos, ond gall defnyddwyr y gwasanaeth weithio trwyddynt ar drywydd sy’n gyfleus iddyn nhw a chyrchu deunydd ac ymarferion hyd yn oed ar ôl cwblhau cyrsiau.
Caiff cynnydd ei fonitro gan ymarferwyr hyfforddedig, sy'n darparu adborth bob pythefnos ac yn gallu uwchgyfeirio achosion mwy difrifol i gyrchu cymorth pellach.
O'r 30,000 o atgyfeiriadau, mae dros hanner wedi bod ar gyfer oedolion sydd angen cymorth gyda gorbryder ac iselder.
Mae bron i 2000 wedi ceisio cymorth gyda straen, tra bod cannoedd mwy wedi ceisio cymorth gyda phanig, cwsg ac anhwylderau gorfodaeth obsesiynol.
Mae rhaglenni hefyd ar waith i gefnogi plant, pobl ifanc a'u rhieni neu ofalwyr.
Esboniodd un fam o Abertawe sut y cefnogodd y gwasanaeth ei merch deg oed a oedd yn cael trafferth gyda gorbryder, a dywedodd ei fod yn drawsnewidiol.
Ychwanegodd y fam, a ofynnodd am beidio â chael ei henwi: "Roedd yn llwyddiant mawr a byddwn yn bendant yn ei argymell.
"Roedd fy merch yn delio gyda gorbryder gwahanu llethol - doedd hi ddim eisiau mynd i unman hebddo i, wedi gadael ei holl glybiau ac yn ddagreuol yn mynd i'r ysgol bob dydd.
"Dysgodd yn gyflym iawn i gydnabod sut roedd ei gorbryder yn effeithio arni, ac o fewn ychydig fisoedd roedd hi'n gallu mynychu gwersi karate ar ben ei hun. Symudodd i'r ysgol uwchradd a setlodd yn dda iawn.
"Roedd llawer o ymarferion hyfryd yno, llawer o fyfyrio wedi'u teilwra i blant a strategaethau ar gyfer ymdopi â'r gorbryder. Rydyn ni'n dal i'w defnyddio heddiw os yw'n teimlo bod ei gorbryder yn dod yn ôl."
I ddysgu mwy am SilverCloud, ewch i: https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-meddwl-oedolion-a-phobl-hyn/tyg-ar-lein-silvercloud/
Am fwy o wybodaeth ac i hunanatgyfeirio, ewch i: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Rhyddhawyd:15/04/2024